Darganfyddiad prin diolch i reoli glaswelltir

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 25 Medi 2023

Mae corynod gwenyn wedi eu darganfod mewn dwy ardal yn Nhorfaen lle mae glaswelltir wedi cael blodeuo dros yr haf.

Mae’r rhywogaeth, sydd i’w chael yn fwy cyffredin yn ne Lloegr, wedi’i gweld ar ymyl ym Mhontnewynydd ac yng Ngwarchodfa Natur Leol Henllys – y pellaf i’r gogledd y maent wedi’i gofnodi.

Dywedodd Veronika Brannovic, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol yng Nghyngor Torfaen: "Mae'r math yma o gorynod wedi bod yn symud tua'r gogledd, yn ôl pob tebyg oherwydd newid hinsawdd.

"Mae hyn yn dangos bod ein dull o reoli glaswelltir yn gynaliadwy yn caniatáu i rywogaethau symud mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd.

Mae tua 120 o ardaloedd glaswelltir yn rhan o raglen rheoli glaswelltir gynaliadwy Cyngor Torfaen, lle mae torri gwair arferol wedi'i leihau er mwyn caniatáu i blanhigion barhau i flodeuo dros y gwanwyn a'r haf.

Mae hyn yn darparu cynefinoedd i bryfed a pheillwyr ac yn caniatáu i blanhigion ddatblygu gwreiddiau hirach sy'n golygu eu bod nhw’n gallu storio mwy o garbon yn y pridd – cyfrannwr allweddol at fynd i'r afael â chynhesu byd-eang.

Y mis nesaf, bydd pob ardal yn cael ei thorri yn ôl i annog blodau gwyllt a phlanhigion i dyfu eto y gwanwyn nesaf.

Ychwanegodd Veronika: "Nawr bod y planhigion wedi marw, bydd torri'r llystyfiant yn ei ôl yn ei helpu i dyfu yn ôl yn y gwanwyn.

"Mae'r newidiadau i arferion torri gwair ar draws y fwrdeistref sirol eisoes wedi dangos, hyd yn oed mewn mannau bach, y gallwn ni wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt ac er llesiant.

"Rydym ni’n gweld cynnydd mewn blodau gwyllt, pryfed a rhywogaethau eraill ac rydym ni’n bwriadu ehangu'r rhaglen bob blwyddyn er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl a helpu i addasu i effeithiau newid hinsawdd."

Gwyliwch fideo am y rhaglen rheoli glaswelltir cynaliadwy.

Yn gynharach eleni, fe bleidleisiodd cynghorwyr i ychwanegu 50 safle arall at y rhaglen rheoli glaswelltiroedd cynaliadwy: naw ym Mlaenafon; dau yng Nghoed Efa; saith yng Nghroesyceiliog; un yn y Tyllgoed; un yn Garndiffaith a Varteg; tri yn Nwyrain Griffithstown; tri yn Lowland ac Avondal; un yn Llantarnum; saith yn Llanyrafon; un yn New Inn; un ym Mhonthir; un ym Mhontnewydd, tri yn Snatchwood; un yn Southvill; dau yn St. Dials; tri yn Nhrevethin; dau yn Two Locks; un yng Nghwmbrân Uchaf a dau yn Wainfelin.

Dysgwch fwy am ddull y cyngor o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur

Credyd llun: Ffotograff gan Gavin Vella.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/09/2023 Nôl i’r Brig