Bref cael bod yn ôl – cadarnhau dyddiad ailagor Fferm Greenmeadow

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025
Sheep at Greenmeadow Farm

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi cyhoeddi dyddiad ailagor ar ôl  trawsnewidiad helaeth.

Mae'r fferm boblogaidd wedi cadarnhau y bydd yn ailagor ei gatiau ddydd Sadwrn 13 Medi 2025.

Mae'r fferm wedi bod yn cael ei hailwampio'n sylweddol mewn ymgais i'w thrawsnewid yn gyrchfan ymwelwyr o ansawdd uchel yn Nhorfaen.

Mae'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn cynnwys adnewyddu adeiladau presennol, ysgubor chwarae newydd a chyfleusterau anifeiliaid newydd sbon, yn ogystal â gosod system pwmp gwres o'r radd flaenaf, wedi ei ariannu gan grant o £1.56m gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Dyma'r newyddion da rydyn ni'n gwybod eich bod chi i gyd wedi bod yn aros amdano, rydym yn barod i gadarnhau'r dyddiad agor!

"Ar ôl ymweld â'r safle yn ddiweddar, gallaf ddweud wrthych fod y trawsnewidiad yn gyffrous iawn ac mae cymaint o brofiadau newydd i chi eu mwynhau.

"Rydym mor ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein cymunedau, ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn dod ac yn  creu atgofion newydd a rhoi gwreiddiau yn y lle arbennig hwn."

Dywedodd Gay Coley, o Coley Hill Consultants, sydd wedi cefnogi Cyngor Torfaen gyda'r trawsnewidiad: "Fe ddechreuon ni gyda thair her fawr - sut allwn ni sicrhau bod yr atyniad yn dod yn hunangynhaliol, yn galluogi ymwelwyr i ddod yn agos at fferm sy'n gweithio, ac yn parchu'r adeiladau hanesyddol a'r dreftadaeth?

"Rydym yn credu bod y gwaith adnewyddu hwn wedi gwneud hynny ac rydym yn edrych ymlaen at weld cenhedlaeth newydd yn mwynhau diwrnod gwych allan yn Fferm  Greenmeadow."

Mae'r prosiect yn cynnwys cyfleusterau chwarae newydd helaeth, gyda datblygu Ysgubor Chwarae dan do newydd i bob tywydd yn ogystal ag ardaloedd chwarae awyr agored antur newydd ar draws y safle. Mae anifeiliaid mawr a bach Greenmeadow yn cael eu gofal gyda llociau newydd ac Ysgubor Anifeiliaid newydd sbon.

Bydd mwy o gyfleoedd i ymwelwyr ddod yn agos at eu ffrindiau blewog gyda’r Cornel Cwtsh a llwybrau cerdded trwy lawer o'r llociau anifeiliaid gan gynnwys ieir, cwningod a geifr. Bydd anifeiliaid newydd hefyd yn ymuno â'r hen ffefrynnau ar y safle.

Mae gwella hygyrchedd wedi bod yn rhan bwysig o drawsnewid Greenmeadow. Mae llwybrau ar draws y fferm wedi'u hailraddio ac yn cael eu hail-wynebu, mae'r gofod digwyddiadau nawr yn cynnwys lifft a thoiledau hygyrch, gan gynnwys cyfleuster Changing Spaces.

Ychwanegodd y Cynghorydd Cross: "Roedd yn bwysig bod hygyrchedd a chynaliadwyedd yn cael eu gwella, ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi ac ariannu'r gwaith hwn. Mae wedi cymryd ychydig yn hirach na'r disgwyl ond rydym yn hyderus y bydd y manteision i'w gweld am flynyddoedd lawer i ddod."

Rhan o her y trawsnewid yw oedran y safle, gyda'r ffermdy yn dyddio'n ôl i 1752. Mae estyniad trawiadol â ffrâm dderw newydd i gefn y ffermdy wedi ychwanegu caffi newydd 90 sedd a fydd ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal ag ymwelwyr â'r fferm.

Bydd yr ymwelwyr cyntaf â'r safle yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cefnogi'r fferm i ffynnu, gyda phlannu coed, gwneud a dosbarthu bomiau hadau a garddio llysiau i gyd yn barod i ddigwydd yn ystod yr hydref.

Bydd gwybodaeth am oriau agor, prisiau tocynnau a manylion aelodaeth ar gael ar wefan Fferm Greenmeadow yn ystod yr wythnosau nesaf.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2025 Nôl i’r Brig