Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Gorffennaf 2025
Dysgwch am Warchodfa Natur Leol newydd Torfaen mewn digwyddiad i nodi dechrau Wythnos Natur Cymru.
Dynodwyd Blaenserchan, yn Abersychan, yn Warchodfa Natur Leol yn swyddogol yn gynharach eleni ac mae’n un o’r mwyaf yn y fwrdeistref.
Ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, gwahoddir pobl o bob oed i gymryd rhan yn Bioblitz Blaenserchan i helpu i adnabod a chofnodi rhywogaethau adar, ffwng, pryfed a blodau gwyllt ar y safle.
O 10am i 4pm, bydd y digwyddiad yn cynnwys y teithiau cerdded canlynol:
- 10am – Agoriad swyddogol Gwarchodfa Natur Leol Blaenserchan
- 11:30am – Taith dywysedig ffwng
- 1pm– Taith dywysedig adar
- 2.30pm – Taith dywysedig Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Ymhlith y gweithgareddau eraill ar y diwrnod bydd: paentio dyfrlliw blodau gwyllt, adnabod ffwng trwy ficrosgop, a mwy o weithgareddau ymarferol.
Mae’r digwyddiad am ddim ac ar agor i bobl o bob oed. Anogir pobl i wisgo esgidiau cadarn ac i ddod â llyfrau nodiadau, camerâu a synnwyr antur.
Lleoliad What3Words y safle yma yw ///amused.highly.navy
Dywedodd Veronika Brannovic, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol: “Rydym yn gwybod bod y safle i nifer o rywogaethau planhigion nodedig, gan gynnwys Tegeirian y Wenynen, Tegeirian Bera, Tegeirian y Waun, y Corwlyddyn Clymog, y Feillionen Arw, yr Edafeddog Fach, a’r Lloer-redynen.
“Mae hefyd yn gartref 30 o fathau gwahanol o loÿnnod byw, ac rydym yn edrych ymlaen i weld beth arall gallwn ni ei ganfod.”
Mae Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau eraill i nodi Wythnos Natur Cymru, sy’n digwydd rhwng Gorffennaf 5 a 12:
- Taith dywysedig gwenyn a gloÿnnod yng Ngwarchodfa Natur Leol Llwyncelyn ddydd Mercher, 9 Gorffennaf, gan ddechrau am 12.30pm. Angen bwcio.
- Dyfrlliw blodau gwyllt: Dysgwch am flodau gwyllt lleol a sut i’w paentio mewn dyfrlliw yng Ngwarchodfa Natur Leol Llwyncelyn rhwng 10.30 - 2pm. Dewch â chinio, darperir te a bisgedi. Bwcio’n hanfodol.
I wybod mwy am BioBlitz, neu i gadw lle mewn sesiwn, danfonwch e-bost at veronika.brannovic@torfaen.gov.uk
Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn colli unrhyw ddigwyddiadau trwy ddilyn tudalen Facebook Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen.
Dysgwch am yr amrywiaeth o gynefinoedd gwahanol yn Nhorfaen – gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur eraill – a’r hyn sy’n cael ei wneud i’w diogelu.