Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Medi 2023
Mewn ymdrech i fynd i’r afael â sbwriel a hyrwyddo amgylchedd sy’n lanach ac yn fwy cynaliadwy, agorwyd hwb codi sbwriel newydd yn swyddogol.
Mae’r hwb yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon yn un o saith ar draws Torfaen ac mae ganddo bopeth y mae ar wirfoddolwyr sy’n codi sbwriel ei angen i helpu i gadw’u hardaloedd lleol yn rhydd o sbwriel.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon, ein hwb codi sbwriel diweddaraf, a diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr sy’n ein helpu i gadw Torfaen yn ddi-sbwriel.
“Mae’n Ddiwrnod Glanhau’r Byd ddydd Sadwrn ac felly os oes unrhyw un yn ystyried codi sbwriel, beth am alw i mewn i’ch hwb agosaf a rhoi tro arni?
“Nid oes gwahaniaeth faint o amser fyddwch chi’n ei dreulio yn codi sbwriel, mae’r cyfan yn cyfrif. Gyda’n gilydd gallwn helpu i gadw Torfaen yn daclus.”
Mae hybiau codi sbwriel yn fenter ar y cyd gan Gyngor Torfaen a Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae disgwyl i hwb arall agor ym Mryn Eithin ddydd Iau 28 Medi, ac mae yna un arall wedi’i gynllunio ar gyfer Cronfa Ddŵr Llandegfedd.
Dywedodd Thom Board, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’n wych gweld Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon yn ymuno â’r rhwydwaith cynyddol o Hybiau Codi Sbwriel.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld arwyr sbwriel yn defnyddio’r offer ac yn helpu i ofalu am eu hamgylchedd lleol.
“Mae Hybiau Codi Sbwriel yn cael eu sefydlu ledled Cymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae dros 200 o Hybiau Codi Sbwriel ar agor eisoes. I ddysgu mwy, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus”
Bydd yr hwb yn Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon ar agor i’r cyhoedd gael benthyg offer codi sbwriel. Fe’ch cynghorir i e-bostio neu ffonio’r ysgol o flaen llaw.
Cliciwch yma i weld ble mae’ch Hwb Codi Sbwriel lleol.
Darllenwch am y ffordd y mae’r cyngor yn gweithio hefyd i lanhau’r sir ac i atal sbwriel a thipio anghyfreithlon.
Mae lleihau gwastraff yn rhan o ymrwymiad y cyngor i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, ailgylchu mwy a gwella’r amgylchedd lleol. Darllenwch y Cynllun Sirol am ragor o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Cyngor i leihau ei effaith ar newid hinsawdd a natur