Wedi ei bostio ar Dydd Iau 26 Hydref 2023
Bydd casgliadau ailgylchu cardfwrdd yn cynyddu o bob pythefnos i bob wythnos o’r mis nesaf.
Mae amlder y casgliadau’n cynyddu mewn da bryd ar gyfer y Nadolig, er mwyn helpu trigolion i ymdopi â’r cynnydd mewn cardfwrdd i’w ailgylchu dros gyfnod yr ŵyl.
O ddydd Llun 13 Tachwedd, bydd trigolion yn gallu gadael eu bagiau glas allan bob wythnos ar eu diwrnod casglu arferol.
Fel eich blychau ailgylchu du, nid oes gwahaniaeth a yw’ch bag glas yn llawn ai peidio – rhowch y bag allan erbyn 7am er mwyn i’r criwiau ei gasglu.
Gwybodaeth am yr hyn sy’n gallu cael ei ailgylchu mewn bagiau glas ac o ble i gael bagiau glas ychwanegol.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen: "Roedden ni wedi ymrwymo i barhau â’n cynllun i gynyddu ein gwasanaeth ailgylchu cardfwrdd wrth gyhoeddi dechrau ein hymgyrch Codi’r Gyfradd ym mis Ebrill.
"Yn ôl ymchwil annibynnol, mae tua 15 y cant o sbwriel mewn biniau â chlawr porffor yn cynnwys papur a chardfwrdd. Gobeithiwn y bydd cynyddu amlder y casgliadau cardfwrdd yn gymorth i annog trigolion i roi mwy yn eu bagiau glas."
Mae cynyddu casgliadau ailgylchu cardfwrdd yn un o sawl ffordd y mae Cyngor Torfaen yn cynorthwyo i Godi’r Gyfradd Ailgylchu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant erbyn mis Mawrth 2025.
Y llynedd, prynodd y cyngor 19 o gerbydau newydd er mwyn cynyddu’r gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac yn gynharach eleni cyflwynodd wasanaeth ailgylchu batris bach a llwyddodd i wella cysondeb casgliadau tecstilau.
Er mwyn paratoi i symud at gasgliadau cardfwrdd wythnosol, rydyn ni’n gofyn i drigolion sicrhau bod yr holl gardfwrdd yn ffitio yn eu bagiau glas.
Bydd gwasgu bocsys a’u torri yn ddarnau llai yn gymorth i’r criwiau i gael mwy i mewn i’r cerbydau ailgylchu, a hynny’n gyflymach. Mae hefyd yn gymorth i gadw’r deunydd ailgylchu yn sych ac mae hynny’n golygu ei fod yn haws ei ailgylchu ac yn fwy cost-effeithiol.
Mae aelwydydd yn gallu llenwi mwy nag un bag glas a gellir mynd ag eitemau mwy o faint fel bocsys teledu neu ddodrefn sy’n anodd eu torri i lawr, i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.