Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Hydref 2023
Mae’r bwyd sy’n cael ei ailgylchu yn Nhorfaen wedi cynyddu 13 y cant dros y pum mis diwethaf.
Ym Medi, cafodd ychydig dros 294 o dunelli metrig o wastraff bwyd eu hailgylchu o gymharu â 260 tunnell fetrig yn Ebrill eleni.
Mae’r wythnos yma’n Wythnos Ailgylchu, sy’n ceisio sicrhau cynyddu pob math o ailgylchu, gan gynnwys gwastraff bwyd, sy’n dal i fod yn rhyw chwarter o’r gwastraff sy’n cael ei daflu yng Nghymru.
Oeddech chi’n gwybod.....
- Y bwyd sy’n mynd yn wastraff amlaf yw llaeth, bara, afalau, moron, bananas a chyw iâr.
- Gallai 83 y cant o’r bwyd sy’n cael ei daflu fod wedi cael ei fwyta.
- Mae’r gwastraff i gyd sy’n cael ei gasglu yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni i gartrefi a chymunedau trwy dreuliad anaerobig.
Yn Nhorfaen, mae tua 60% o aelwydydd yn defnyddio ein gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol yn rheoldaidd. I wybod sut i ddechrau ailgylchu bwyd, ewch at ein gwefan.
Dros y chwe mis diwethaf, mae Cyngor Torfaen wedi bod yn gweithio i gynyddu ailgylchu wrth ymyl y ffordd er mwyn helpu i gynyddu cyfraddau yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o 70% erbyn Mawrth 2025.
Gall trigolion nawr ailgylchu batris bach yn eu blwch ailgylchu du, ac mae yna gynlluniau i gynyddu ailgylchu cardbord i fod yn gasgliad wythnosol a chyflwyno ailgylchu eitemau trydanol bach.
Mae’r cyngor hefyd wedi bod yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys Bron Afon, i gynyddu cyfleusterau ailgylchu i fflatiau. Bydd deunaw o fflatiau pellach yn cael eu hychwanegu i’r cynllun erbyn Dydd Llun 23 Hydref.
Mae ysgolion yn cymryd mwy o ran mewn ailgylchu. Y mis diwethaf, Ysgol Gynradd Woodlands oedd enillwyr cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff yn ddiweddar, gydag Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim a Choed Efa’n ail agos.
Mae Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim a Choed Efa hefyd yn helpu i lansio cystadleuaeth i ysgolion fel rhan o Wythnos Ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Fel cyngor, rydym yn gweithio’n galed i gynnig mwy o wasanaethau ailgylchu i drigolion, i’w wneud yn haws i bobl ailgylchu gartref, a byddwn yn parhau i wneud.
“Hoffem ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r cynllun ailgylchu wrth ymyl y ffordd, heb eich help chi, ni fyddem ni ble rydym ni nawr. Ond mae angen arnom ni i bawb ailgylchu, hyd yn oed ychydig bach, os ydym am gyrraedd ein targed o 70%.”
Os ydych chi’n ysgol sydd am gymryd rhan yn yr ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych, ewch at y dudalen hon.
Os ydych chi’n drigolyn ac am wybod mwy am ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha, cliciwch yma.
Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaen