Rhaglen ffitrwydd yn helpu menyw i wrthdroi diabetes

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Mai 2023

Mae Jacquelin Chapman wedi llwyddo i wrthdroi datblygiad diabetes math 2 ar ôl cymryd rhan yn rhaglen iechyd a ffitrwydd i fenywod #oseidiafi.

Cafodd Jacquelin, 40 oed, o Gwmbrân, ddiagnosis fel rhywun cyn-ddiabetig yn 2021 ac roedd yn cael trafferth gyda’i phwysau a’i lles cyffredinol.

Ymunodd â’r rhaglen 10 wythnos yng Ngorffennaf 2022 ac mae hi wedi colli pum stôn ers hynny ac wedi gweld gwelliant anferth yn ei hiechyd.

Mae rhaglen am ddim #oseidiafi yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau ymarfer corff ac addysgol gyda’r bwriad o helpu’r rheiny sy’n cymryd rhan i golli pwysau, gwella lefelau eu ffitrwydd, a rheoli rhai cyflyrau iechyd.

Dan arweiniad Datblygiad Chwaraeon Torfaen, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, mae’n cynnig cyfle i fenywod lleol gymryd rhan mewn sesiynau grŵp wythnosol, sesiynau ymarfer personol, a derbyn cyngor ar faeth a lles meddyliol.

Dywedodd: “Rydw i wedi gostwng fy lefel glwcos gwaed o 46 cyn-diabetig i 31, yr isaf posibl.  Rwy’n teimlo fel person newydd, ac mae hyn wedi rhoi hyder i mi fynd allan a mwynhau pethau newydd gyda fy mhlant a byw bwyd mwy hapus ac iach.”

Gall menywod yn y rhaglen hefyd fynd i ddosbarthiadau Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a champfeydd ac maen nhw’n cael cefnogaeth i ymuno â chlybiau chwaraeon yn y gymuned.

Dywedodd Megan Parker, Swyddog Datblygiad Chwaraeon yng Nghyngor Torfaen: “Rydym yn hynod o falch o weld effaith gadarnhaol #oseidiafi ar iechyd a lles menywod yn Nhorfaen.

“Mae #oseidiafi wedi cefnogi cymaint o fenywod i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau ac wedi sodro arferion ag agweddau newydd tuag at ymarfer corff sydd wedi arwain at newid tymor hir mewn ymddygiad. Mae llwyddiant Jacquelin yn tystio i nerth ymarfer corff ac addysg wrth reoli cyflyrau fel diabetes, ac rydym yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd i ystyried ymuno â’r rhaglen.”

Meddai Nicola Doble, Hyfforddwr Personol gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen: “Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r hyn y mae Jacqueline wedi ei gyflawni. Mae Jacquelin yn fodel rôl perffaith i bobl sydd eisiau cychwyn ar eu taith at ffitrwydd a gweithio tuag at eu nod!”

Am ragor o wybodaeth am raglen #Oseidiafi a mentrau eraill sy’n cael eu rhedeg gan Datblygu Chwaraeon Torfaen, ffoniwch 01633 628936 neu anfonwch neges e-bost i megan.parker@torfaen.gov.uk

I gael y wybodaeth ddiweddaf dilynwch nhw ar Facebook @Torfaensports | @ifyougoigo

Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2023 Nôl i’r Brig