Arolwg Codi'r Gyfradd yn cyrraedd 1,200

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Mai 2023
NEW Raise the Rate bin graphic CYM

Average contents of purple-lidded bins

Dim ond pythefnos sydd ar ôl i chi roi eich barn ynglŷn â sut gall cyfraddau ailgylchu gael eu gwella yn Nhorfaen. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynyddu ailgylchu'r cartref i 70 y cant erbyn 2025 neu wynebu dirwyon sylweddol.

Mae cyfraddau ailgylchu yn Nhorfaen wedi bod tua 62 y cant yn ddiweddar.

Yn 2021 a 2022, cafwyd dadansoddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o wastraff biniau clawr porffor o un fil o gartrefi yn Nhorfaen. 

Canfu y gellid ailgylchu 80 y cant o’r gwastraff – mwy na 60 y cant o hynny wrth ymyl y ffordd, fel gwastraff bwyd, cardbord a phapur.

Cafodd ymgynghoriad diweddar ar gynigion i annog pobl i roi llai yn eu biniau clawr porffor trwy leihau casgliadau gwastraff gweddilliol ei oedi'r mis diwethaf.

Yn lle hynny, mae Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt wedi lansio ymgyrch newydd Codi’r Gyfradd i ganolbwyntio ar sut gall y cyngor a thrigolion godi cyfraddau ailgylchu gyda’n gilydd.

Gallwch gymryd rhan trwy gwblhau arolwg newydd Codi’r Gyfradd yma.

Mae dros 1,200 o bobl eisoes wedi cwblhau’r arolwg, a fydd yn cau ar ddydd Gwener 2 Mehefin.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Rydym wedi dod cryn bellter yn Nhorfaen dros yr 20 mlynedd ddiwethaf ond mae angen i ni i gyd wneud mwy i gyrraedd taged Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant.

“Felly, rwy’n gofyn i chi ddweud wrthym ni am eich profiadau o ailgylchu a sut rydych chi’n meddwl y gallwn ni i gyd gynyddu’r hyn yr ydym yn ei ailgylchu.  Bydd eich barn yn sail i’r hyn y gallwn ni ei wneud fel cyngor i gynyddu ailgylchu a sut gallwn ni helpu unigolion a chymunedau i wneud mwy.

“Os na allwn ni gynyddu cyfraddau ni fydd gyda ni ddewis ond cymryd camau eraill, fel lleihau nifer y casgliadau gweddilliol, neu wynebu dirwyon o hyd at £100,000 ar gyfer pob un y cant yr ydym yn brin.”

Ychwanegodd y Cyng.  Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’r dystiolaeth yn awgrymu, os byddwn ni i gyd yn ailgylchu pob peth sy’n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd, byddwn ni’n cynyddu cyfraddau ailgylchu’n sylweddol.

"Mae angen i ni ddeall pam fod pobl yn rhoi rhai eitemau yn eu biniau clawr porffor pan fo modd eu hailgylchu a sut allwn ni eu helpu nhw i wneud y newidiadau.

"Mae’n bwysig hefyd cofio bod cynyddu cyfraddau ailgylchu’n un ffordd y gallwn ni i gyd helpu i daclo newid yn yr hinsawdd oherwydd bod ailddefnyddio deunyddiau o gynhyrchion wedi eu hailgylchu’n creu llai o allyriadau."

Bydd ymgyrch newydd Codi’r Gyfradd yn cynnwys ymgysylltiad cyhoeddus ac addysg, yn ogystal â: 

  • Chynlluniau ar gyfer pwyntiau casglu plastig ymestynnol. 
  • Ymrwymiad i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol i gynyddu cyfraddau ailgylchu mewn fflatiau.
  • Gwelliannau i ansawdd y gwasanaeth ailgylchu.
  • Buddsoddiad mewn cyfleusterau ailgylchu yn Nhŷ Coch.

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg ar dudalen Cymerwch Ran Torfaen yn ddienw neu gofrestru i gael clywed y diweddaraf am arolygon yn y dyfodol. 

Dysgwch am yr hyn y gallwch ailgylchu ym mhob blwch neu fag ar ein gwefan

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynglŷn ag ymgyrch Codi’r Gyfradd yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2023 Nôl i’r Brig