Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Mai 2023
Kris Wade, Uwch Swyddog Etholiadau; Yr Athro Jon Hunt, Fforwm Mynediad Torfaen; Katie Jenkins, Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad Etholiadau a Caroline Genever-Jones; Rheolwr Busnes ac Etholiadau.
Mae tîm etholiadau Cyngor Torfaen wedi bod yn gweithio gyda grwpiau i bobl anabl er mwyn adolygu hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio lleol.
Mae’r tîm yn adolygu pob un o’r 70 o orsafoedd pleidleisio yn y fwrdeistref law yn llaw â chynrychiolwyr o Fforwm Mynediad Torfaen, Sight Cymru a Prosiect Cyngor ar Anabledd lle bynnag bo hynny’n bosibl.
Meddai Caroline Genever-Jones, Rheolwr Busnes ac Etholiadau: “Rydyn ni’n ymweld â gorsafoedd pleidleisio i weld pa welliannau y mae modd eu gwneud, tu mewn a thu allan.
"Rydyn ni am sicrhau bod pob un yn cael profiad mor hwylus â phosibl wrth bleidleisio. Mae pobl sydd ag anableddau yn wynebu rhwystrau gwahanol a gallwn ddeall anghenion yn well trwy weithio gyda phobl sydd wedi cael profiadau bywyd.
“Lle’n bosibl, byddwn yn ychwanegu pethau fel rampiau dros dro, goleuadau, arwyddion, cymhorthon gweledol a dolenni clyw. Bydd yr adborth yn gymorth i ni wella hyfforddiant staff hefyd.”
Meddai’r Athro John Hunt, Is-gadeirydd Fforwm Mynediad Torfaen: “Mae’n bwysig fod pobl ag anableddau yn cael yr un cyfle i bleidleisio yn eu gorsaf bleidleisio â phobl heb anableddau.
"Er bod yna opsiwn o bleidleisio trwy’r post, nid yw hyn yr un peth â bwrw’ch pleidlais mewn blwch pleidleisio. Rydyn ni wedi tynnu sylw at rai o’r anawsterau sy’n codi wrth fynd i mewn i orsafoedd pleidleisio ac wrth ddod allan ohonynt, ac wedi awgrymu rhai newidiadau tu mewn i orsafoedd pleidleisio er mwyn helpu pobl sydd â chyflyrau synhwyraidd. Gobeithiwn y bydd hyn o gymorth i wella profiad pleidleiswyr anabl.”
Ychwanegodd Esther Weller, Swyddog Ymwybyddiaeth gyda Sight Cymru: “Mae pleidleisio yn gallu bod yn straen i bobl sy’n ddall, sydd wedi colli rhywfaint o’u golwg neu sydd â nam ar eu golwg.
"Yn aml, mae angen cymorth arnoch, ac felly mae’n braf gwybod bod staff wedi cael eu hyfforddi a’u bod yn gallu cynnig cymorth fel dyfais bleidleisio deimladwy, copi print bras o’r papur pleidleisio a chwyddwydrau.”
O fis Hydref eleni, bydd gofyn i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod â llun er mwyn pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol, etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, isetholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig a deisebau adalw. Ni fydd angen dogfen adnabod â llun ar gyfer etholiadau’r Senedd nac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Gallwch weld pa ddogfen adnabod â llun y gallwch ei defnyddio trwy glicio yma. Os nad oes dogfen adnabod â llun gennych sy’n dderbyniol, gallwch ofyn am ddogfen adnabod pleidleiswyr rad ac am ddim o’r enw Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol. Gallwch hefyd ffonio’r tîm etholiadau ar 01495 762200.
Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â Fforwm Mynediad Torfaen, ewch i’r ardal Dweud Eich Dweud ar ein gwefan.