Cynllun ieuenctid yn trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Mai 2023
ccypt

Mae cynllun newydd i bobl ifanc yn helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghwmbrân.

Mae gweithwyr ieuenctid o Ganolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc yn targedu ardaloedd trafferthus er mwyn cysylltu â phobl ifanc a’u hannog i fynychu’r ganolfan yn lle aros o gwmpas canolfannau siopa a mannau cyhoeddus eraill.

Maen nhw’n cynnig bwyd am ddim a chyfle i gymdeithasu â’u ffrindiau.

Mae’r ganolfan nawr yn cael mwy na 700 o ymweliadau gan bobl ifanc pob mis, gyda busnesau lleol a’r heddlu’n dweud am welliant mewn digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu trwy gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref mewn partneriaeth rhwng Canolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc,

Heddlu Gwent, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Dywedodd Kieran Saunders, gweithiwr cymorth ieuenctid yng Nghanolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc: “Dyw’r rhan fwyaf o bobl ifanc ddim yn mynd allan i achosi problemau, maen nhw eisiau rhywle i fynd gyda’u ffrindiau.

“Rydym yn teithio i fannau ble mae yna broblemau, yn siarad â’r bobl ifanc ac yn eu hannog nhw i ddod i’r ganolfan.  Pan fyddan nhw yno, gallwn ni gadw llygad arnyn nhw, gwneud yn siŵr eu bod yn iawn a chynnig cefnogaeth iddyn nhw os oes angen.

“Rydym ni wedi cael ymateb anhygoel, gan bobl ifanc, trigolion a busnesau lleol, ac mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned.”

Mae pobl ifanc wedi bod yn ymateb yn dda i’r cynllun.

Dywedodd Natasha: “Rwy’n hoffi dod i’r Ganolfan oherwydd ei bod yn hwyl ac mae’r staff yn wych. Rwy’n hoffi dod yma oherwydd ei bod yn fy nghadw i rhag mynd i drafferth.  Rwy’n dod yma bob nos nawr oherwydd ei fod yn cadw fi o’r strydoedd.”

Dywedodd Ash: “Rwy’n hoffi dod i’r ganolfan oherwydd ei bod yn lle diogel i ddod iddi gyda fy ffrindiau.  Mae’r staff yn gefnogol ac yn barod bob amser i helpu. Pe na bawn i’n gallu dod i’r ganolfan, buaswn i’n chwarae o gwmpas gyda fy ffrindiau yn y strydoedd neu yn fy ystafell heb ddim i’w wneud.”

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn arwain y cynllun.Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, yr Aelod Gweithredol dros  Berfformiad Corfforaethol yng Nghyngor Torfaen: “Trwy bartneriaeth gyda gweithwyr ieuenctid sy’n adnabyddus i bobl ifanc sy’n ymddiried ynddyn nhw, rydym yn estyn allan at y grwpiau hynny sy’n gyfrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cynnig rhywbeth mwy cadarnhaol iddyn nhw wneud gyda’u hamser.

“Rydym yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y fan a’r lle, ond hefyd er mwyn diogelu’r bobl ifanc yma, eu cadw rhag mynd i drafferth a'u gosod ar ben ffordd ar gyfer y dyfodol.”

Mae Cronfa Strydoedd Mwy Diogel yn cael ei rhoi i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd i gefnogi gwaith partneriaeth rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill gyda phrosiectau sy’n cadw cymunedau’n ddiogel.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae hon yn enghraifft ardderchog o’r heddlu, yr awdurdod lleol a'r sector elusennol yn gweithio gyda’i gilydd i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, cadw pobl yn ddiogel, a chreu cyfleoedd gwell i bobl ifanc.”

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2023 Nôl i’r Brig