Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mai 2023
Mae arolwg newydd wedi cael ei lansio yn rhan o ymgyrch i godi cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref yn Nhorfaen i 70 y cant.
Daw hyn wedi i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd fis diwethaf ar gynlluniau i wella cyfraddau ailgylchu trwy leihau casgliadau biniau â chlawr porffor, ddod i ben yn dilyn adborth gan drigolion.
Yn ei le, cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, ymgyrch newydd Codi’r Gyfradd er mwyn cynyddu’r gyfradd ailgylchu trwy weithio gyda thrigolion, ehangu ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac addysgu a gorfodi mwy.
Gallwch chi ddweud wrthon ni beth rydych chi’n ei ailgylchu, ac awgrymu sut i wella cyfraddau ailgylchu yn eich barn chi, trwy fynd i’n safle Dweud Eich Dweud Torfaen. Daw’r arolwg i ben ddydd Gwener 2 Mehefin.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Rydyn ni wedi dod ffordd bell yn Nhorfaen dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gan godi ein cyfraddau ailgylchu o lai na 15 y cant i dros 62 y cant.
"Er bod Cymru yn arwain y blaen, mae angen i ni Godi’r Gyfradd i 70 y cant er mwyn lleihau gwastraff a chyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn gwneud hyn mae angen eich help chi.
"Felly, rydw i’n gofyn i chi ddweud wrthon ni am eich profiadau ailgylchu a sut allwn ni i gyd ailgylchu mwy yn eich barn chi. Bydd eich barn chi yn gymorth i oleuo’r hyn rydyn ni’n ei wneud fel cyngor er mwyn cynyddu’r gyfradd ailgylchu ac yn gymorth i ni wybod sut y gallwn ni helpu unigolion a chymunedau i wneud mwy."
Ar hyn o bryd, mae tua 62 y cant o’r gwastraff yn cael ei ailgylchu yn Nhorfaen bob blwyddyn.
Mewn dadansoddiad o’r gwastraff mewn biniau gwastraff â chlawr porffor yn ddiweddar, gwelwyd bod 60 y cant o’r sbwriel yn cynnwys eitemau y gellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd, gan gynnwys gwastraff bwyd, cardfwrdd a thecstilau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Yn ôl y dystiolaeth, petai pob un ohonom yn ailgylchu popeth sy’n gallu cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd, byddai’r cyfraddau ailgylchu yn codi’n sylweddol.
"Mae arnom angen deall pam mae pobl yn rhoi eitemau penodol yn eu biniau â chlawr porffor pan fo modd eu hailgylchu, a sut y gallwn ni eu helpu i wneud y newidiadau.
"Mae’n bwysig cofio hefyd fod cynyddu cyfraddau ailgylchu yn un ffordd o daclo newid hinsawdd oherwydd mae ailddefnyddio defnyddiau o gynnyrch wedi eu hailgylchu yn creu llai o allyriannau."
Bydd yr ymgyrch Codi’r Gyfradd newydd yn cynnwys ymgyrch eang i ymgysylltu â’r cyhoedd ac addysgu, yn ogystal â:
- Chynlluniau i ddarparu mwy o fannau casglu plastig ymestynnol.
- Ymrwymiad i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol i gynyddu cyfleusterau ailgylchu mewn fflatiau.
- Gwelliannau i ansawdd y gwasanaeth ailgylchu.
- Buddsoddi yn y cyfleusterau ailgylchu yn Nhŷ Coch.
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg yn ddienw neu gofrestru er mwyn cael y diweddaraf am arolygon y dyfodol. Ewch i Dweud Eich Dweud Torfaen.
Gallwch ddarganfod beth sy’n gallu cael ei ailgylchu ymhob blwch neu fag ar ein gwefan.
Cewch ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Codi’r Gyfradd yma.