Gadewch iddo flodeuo ar gyfer yr haf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mai 2023

Mae trigolion yn cael eu hannog i gefnogi Mai Di-dor, sy’n annog pobl i beidio â thorri eu lawntiau’r mis yma er mwyn cefnogi bioamrywiaeth leol a helpu i daclo newid yn yr hinsawdd.

Neu, gallwch chi fynd ymhellach a chefnogi rhaglen haf cynaliadwy Cyngor Torfaen, sy’n golygu bod rhai glaswelltiroedd yn cael eu gadael yn llonydd i dyfu a pheillio tan yr hydref. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae gadael i flodau gwyllt mewn lawntiau dyfu yn gynnar yn yr haf yn wych i beillwyr a bywyd gwyllt arall ac mae’n cynyddu amrywiaeth planhigion, sy’n helpu i dynnu carbon allan o’r atmosffer – rhan allweddol o leihau newid yn yr hinsawdd.

“Ond mae blodau gwyllt yn parhau i flodeuo gydol yr haf, felly os allwch adael ardaloedd llai heb eu torri am gyfnod hirach byddwch yn helpu i greu coridorau bywyd gwyllt.  Mae’r rhain yn caniatáu i anifeiliaid a phryfed symud o gwmpas ac yn helpu i hybu cysylltedd cynefinoedd.”

Diolch i raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, talwyd am offer torri a chasglu arbenigol i alluogi glaswelltiroedd i gael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy.

Cyflwynodd y cyngor ei raglen haf cynaliadwy yn 2014.  Ers hynny, mae lladd gwair wedi lleihau mewn dros 120 o fannau ledled y fwrdeistref, gan gynnwys ymylon rhai ffyrdd a chylchfannau.

Yn gynharach eleni, cefnogodd aelodau’r cabinet gynllun i ychwanegu 51 o ardaloedd newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl Plantlife, mae’r DU wedi colli 97 y cant o’i dolydd blodau gwyllt ers y 1930au.  Mae dros 700 o rywogaethau o flodau gwyllt yn tyfu wrth ymyl ffyrdd, sef bron i 45 y cant o amrywiaeth planhigion y DY.  

I gymryd rhan ym Mai Di-dor, cofrestrwch ar wefan Plantlife a gadewch eich lawnt i fod heb ei thorri trwy gydol Mai.

Gallwch hefyd gymryd camau ychwanegol i gefnogi bioamrywiaeth, fel plannu planhigion brodorol. Gall y camau bach yma gael effaith fawr ar yr amgylchedd a helpu i hyrwyddo cymuned iachach a mwy cynaliadwy.

Am fwy o wybodaeth am ymgyrch “Mai Di-dor”, ewch i https://www.plantlife.org.uk/campaigns/nomowmay/ 

I weld sut mae’r Cyngor yn rheoli torri gwair trwy’r fwrdeistref, ewch i https://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/StreetCareandCleaning/Grasscutting/Grass-Cutting.aspx

Mae lleihau newid yn yr hinsawdd yn rhan o Gynllun Sirol y Cyngor, ac mae lleihau torri gwair yn cyfrannu at Argyfwng Natur a Newid yn yr hinsawdd y Cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/06/2023 Nôl i’r Brig