Ysgolion yn gweld lleihad yn nifer y disgyblion sy'n absennol yn gyson

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31 Mawrth 2023
#NotInMissOut tile

Children stood beneath a banner that says # Not In Miss Out

Mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn Nhorfaen wedi gweld lleihad yn nifer y disgyblion sy’n cael eu categoreiddio fel disgyblion sy’n absennol yn gyson. 

Gwelwyd lleihad o 2.5 y cant yn nifer y disgyblion â chyfraddau presenoldeb o dan 80 y cant er mis Rhagfyr 2022.

Fis diwethaf, cymeradwyodd y cynghorwyr Strategaeth Presenoldeb newydd Cyngor Torfaen. Mae’r strategaeth hon yn atgyfnerthu ymrwymiad yr awdurdod i gynorthwyo ysgolion i leihau nifer y disgyblion sy’n absennol yn gyson, yn enwedig yn achos absenoldebau anawdurdodedig.

Ar gyfartaledd, mae tri y chant o absenoldebau mewn ysgolion uwchradd ac 1.4 y cant o absenoldebau mewn ysgolion cynradd yn rhai anawdurdodedig, sy’n golygu na roddwyd rheswm neu y pennwyd bod y rheswm yn annerbyniol.

Yn ôl y strategaeth newydd, mae cymorth ychwanegol yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion i helpu disgyblion sy’n ei chael yn anodd ail-addasu at addysg arferol ar ôl y pandemig, a bydd ysgolion yn cael cymorth gyda phenderfyniadau i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig.  

Mae’r strategaeth hefyd yn cefnogi ymgyrch #DdimMewnColliMas y cyngor, sy’n ceisio hyrwyddo presenoldeb rheolaidd trwy ddathlu buddion amrywiol mynychu’r ysgol. Gallwch wylio fideo sy’n hyrwyddo’r ymgyrch, a gynhyrchwyd gyda disgyblion ysgolion lleol yma. Gallwch hefyd ddilyn yr ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy chwilio am #DdimMewnColliMas.

Un o’r rheiny sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch yw Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio, ym Mhont-y-pŵl.

Meddai’r Pennaeth, Paul Welsh: "Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol er mwyn galluogi plant i fanteisio ar y cyfleoedd addysgol a gynigir iddynt. Hebddo, ni fydd ymdrechion yr athrawon gorau yn yr ysgolion gorau yn dwyn ffrwyth a thanseilir y broses addysg.

"Mae presenoldeb yn hanfodol i barhad profiadau dysgu ac, yn sgil hynny, i ddysgu effeithiol. Cydnabyddir yn eang fod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn ffactor allweddol wrth godi cyrhaeddiad plant a gwella’r cyfleoedd fydd ar gael iddynt yn y dyfodol."

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Addysg: "Rwy’n falch o weld bod nifer y disgyblion sy’n absennol yn gyson wedi lleihau a bod llawer o ysgolion yn cymryd rhan yn yr Ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas sy’n dathlu’r profiadau cyfoethog ac amrywiol y mae ein hysgolion yn eu cynnig. 

"Rydw i hefyd wrth fy modd fod pum ysgol wedi cael adroddiad rhagorol gan Estyn yn ddiweddar. Tynnwyd sylw at natur gefnogol yr ysgolion hyn a’u gallu i feithrin eu disgyblion."

Mae’n ofyniad cyfreithiol i rieni a gofalwyr yng Nghymru i ddarparu addysg ar gyfer plant oed ysgol. Mae’n ddyletswydd ar ysgolion i gysylltu â theulu pob disgybl sy’n absennol o’r ysgol heb reswm addas.

Am ragor o wybodaeth am y presenoldeb rhowch glic ar ein gwefan

Yn nogfen y cyngor, Torfaen y Dyfodol: Cynllun Sirol, ceir ymrwymiad i godi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i ennill y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol. Am ragor o wybodaeth am y cynllun sirol, rhowch glic yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/05/2023 Nôl i’r Brig