Cyfleusterau chwaraeon newydd ar agor i'r gymuned

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Gorffennaf 2025

Mae cyfleusterau chwaraeon newydd gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael eu hagor yn swyddogol yn Ysgol Abersychan.

Cafodd gwesteion, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor Anthony Hunt, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg Richard Clark ac AS Torfaen Nick Thomas-Symonds, a Lynne Neagle MS daith o amgylch y cyfleusterau newydd, a chyfle i wylio timau pêl-droed a rygbi'r ysgol yn hyfforddi, yn gynharach heddiw.

Daw hyn wrth i'r maes 3G o'r radd flaenaf, y stiwdio ddawns a'r neuadd chwaraeon - sydd wedi bod ar gael i ddisgyblion ers fis Ebrill – gael eu cynnig i’r gymuned i’w llogi yr wythnos hon.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Rydyn ni yma i nodi agoriad swyddogol y cae 3G newydd yn Ysgol Abersychan ond mae'r buddsoddiad hwn hefyd yn ymwneud â chadw pobl yn heini ac yn egnïol yn y gymuned yn ogystal ag yn ein hysgolion. Fel Cyngor Marmot mae hyn yn bwysig iawn. 

"Po fwyaf y gallwn ei wneud i fuddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc, y mwyaf y gallwn adeiladu cymuned fwy iach, ffyniannus a gwydn yn y dyfodol."

Ychwanegodd y pennaeth Rhodri Thomas: "Mae hon yn foment o ddathlu – i’n hysgol a hefyd i’r gymuned ehangach sy'n ein cefnogi.

"Mae'r maes 3G hwn yn fwy na dim ond arwyneb o'r radd flaenaf. Mae'n gyfle. Mae'n lle i fyfyrwyr ddysgu gwaith tîm, gwytnwch ac arweinyddiaeth. Ar adeg pan fo pobl ifanc yn wynebu cymaint o heriau, mae'r buddsoddiad hwn yn eu hiechyd corfforol, eu llesiant meddyliol, ac ymdeimlad o berthyn yn bwysicach nag erioed.

"Ond mae hefyd yn adnodd i'n cymuned. Rydyn ni’n falch y bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu rhannu y tu hwnt i gatiau'r ysgol, gan gynnig lle o ansawdd uchel i glybiau a grwpiau lleol hyfforddi, chwarae a thyfu."

Mae'r maes newydd gwerth £2.2m yn cynnwys arwyneb wedi'i gymeradwyo gan FIFA a World Rugby ar gyfer pob tywydd, gyda llifoleuadau, ystafelloedd newid wedi'u hadnewyddu, ardaloedd ar gyfer y timau, a dwy stondin ar gyfer gwylwyr.

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a phartner elusennol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Sefydliad Pêl-droed Cymru.

Meddai Aled Lewis, Cyfarwyddwr y Sefydliad: "Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau sy'n ysbrydoli cymunedau. Mae'r maes 3G newydd hwn yn Ysgol Abersychan yn hwb enfawr i chwaraeon yn yr ardal leol a mynediad at gyfleusterau ar draws y Fwrdeistref.

"Diolch yn fawr iawn i'n partneriaid - Llywodraeth y DU - a Chyngor Torfaen am gefnogi datblygiad y cyfleuster newydd hwn. Trwy bŵer cydweithio, rydyn ni'n gwneud cynnydd enfawr wrth wella cyfleusterau pêl-droed yng Nghymru, ar y cae ac oddi arno."

Mae'r maes 3G newydd yn un o bedwar yn y Fwrdeistref - ochr yn ochr â rhai yn Ysgol Gorllewin Mynwy, Ysgol Gymraeg Gwynllyw ac Ysgol Gynradd Llantarnam, a fydd yn agor yn ddiweddarach y mis hwn.

Ailwampiwyd y neuadd chwaraeon a chrëwyd stiwdio ddawns newydd diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Ar yr un pryd, mae'r ganolfan adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi'i hailwampio gyda chyllid gan grant ADY Llywodraeth Cymru.

Daw hyn ar ôl i gyrtiau pêl-rwyd yr ysgol gael eu hadnewyddu, yn dilyn buddsoddiad gan gronfa Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru.

Gall aelodau'r cyhoedd logi’r cyfleusterau newydd trwy wefan yr ysgol, a rhoddir blaenoriaeth i glybiau a grwpiau lleol.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/07/2025 Nôl i’r Brig