Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Mawrth 2023
Eleni, bydd ein criwiau’n gweithio dros wyliau banc y Pasg, felly ni fydd newid i’ch casgliadau. Rhowch eich defnyddiau i’w hailgylchu a’ch gwastraff allan ar eich diwrnod casglu arferol.
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor yn ystod oriau agor arferol yr haf. Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8am tan 5.45pm, a dydd Sul 9am tan 5.45pm.
Bydd siop ailddefnyddio Steelhouse ar agor fel arfer rhwng 9am a 4.30pm bob dydd.
Ydych chi wedi dweud eich dweud am ein cynlluniau i gasglu biniau â chlawr porffor yn llai aml? Os nad ydych chi, cliciwch yma i gymryd rhan heddiw.
Mae’r newid hwn yn rhan o gyfres o newidiadau y mae’r cyngor yn eu gwneud er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant erbyn 2025.