Casglu batris wrth ymyl y ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Mawrth 2023

O’r wythnos nesaf, trigolion yn gallu ailgylchu batris bach a ddefnyddir yn y cartref bob wythnos, wrth ymyl y ffordd.

Bydd batris yn cael eu casglu yr un pryd â blychau du trigolion.

Gofynnir i drigolion eu rhoi mewn bagiau bach clir, er enghraifft bagiau brechdanau, a’u clymu er mwyn sicrhau na fydd y batris yn disgyn allan o’r bagiau.

Pa fatris sy’n gallu cael eu hailgylchu?

  • Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V

Pa fatris sydd ddim yn gallu cael eu hailgylchu?

  • Batris ‘botwm’ ïon lithiwm fel y rhai sydd mewn cyfrifianellau, cymhorthion clyw  a watsys
  • Batris E-sigaréts a phennau fêp
  • Batris y gellir eu hailwefru o liniaduron, ffônau symudol, offer pŵer a theclynnau sugno llwch
  • Batris ceir
  • Teclynnau gwefru batris

Gellir ailgylchu’r batris hyn yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd. Gallwch weld beth arall sy’n gallu cael ei ailgylchu yn Nhorfaen ar ein gwefan.

Mae ailgylchu batris yn rhan o gynllun y cyngor i’n helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant erbyn 2025. Mae’r newidiadau’n cynnwys cynlluniau i gasglu’r biniau â chloriau porffor yn llai aml – bob tair neu bedair wythnos. Mae yna gyfle i chi ddweud eich dweud yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/03/2023 Nôl i’r Brig