Ymgynghoriad ar y newidiadau i gasgliadau gwastraff

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 27 Mawrth 2023
Waste Changes Social Media CYM

Waste changes poster

Gallwch ddweud eich dweud am gynlluniau i gynyddu casgliadau ailgylchu a lleihau casgliadau gwastraff gweddilliol yn Nhorfaen o heddiw ymlaen. 

Gofynnir i drigolion ddewis rhwng casgliadau bin â chaead porffor bob tair neu bedair wythnos, yn rhan o gyfres o newidiadau i’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.

Y nod yw cynyddu swm y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu er mwyn helpu i daro targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70 y cant erbyn 2025.

Ar hyn o bryd, mae llai na 64 y cant o wastraff yn cael ei ailgylchu yn Nhorfaen. Yn ôl adroddiad gan Gyngor Torfaen, byddai lleihau casgliadau biniau â chaeadau porffor i unwaith bob tair wythnos yn cynyddu cyfraddau ailgylchu i 66 y cant, gyda chasgliadau bob pedair wythnos yn arwain at gyfraddau ailgylchu o 68 y cant.

I gyd-fynd â’r newidiadau, byddai mwy o addysg ar ailgylchu, a chamau gorfodi. 

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy roi clic yma ar safle Dweud Eich Dweud Torfaen, neu drwy alw heibio’n sioeau teithiol:

  • Dydd Mawrth 28 Mawrth - Canolfan Gofal Sylfaenol Blaenafon 10am-3pm
  • Dydd Mercher 29 Mawrth - Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl 10am-3pm
  • Dydd Sadwrn 1 Ebrill - Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl 10am-3pm
  • Dydd Mawrth 4 Ebrill - Canolfan Gofal Sylfaenol Blaenafon 10am-3pm 
  • Dydd Mercher 5 Ebrill – Canolfan Byw Egnïol Blaenafon 5pm-8pm 
  • Dydd Iau 6 Ebrill - Llyfrgell Cwmbrân 10am-3pm
  • Dydd Iau 13 Ebrill - Llyfrgell Cwmbrân 10am-3pm
  • Dydd Gwener 14 Ebrill – Digwyddiad Byw ar Facebook – Amser i’w gadarnhau
  • Dydd Mawrth 18 Ebrill - Canolfan Siopa Cwmbrân 10am-3pm
  • Dydd Mercher 19 Ebrill – Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl 10am-3pm
  • Dydd Iau 20 Ebrill - Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl 5pm-8pm
  • Dydd Iau 27 Ebrill - Llyfrgell Cwmbrân 10am-3pm
  • Dydd Mawrth 2 Mai - Canolfan Siopa Cwmbrân 10am-3pm
  • Dydd Iau 4 Mai – Stadiwm Cwmbrân 5pm - 8pm

Cadwch lygad ar ein gwefan neu dilynwch Gyngor Torfaen ar y cyfryngau cymdeithasol i gael dyddiadau'r sioeau teithiol newydd.

Bydd y timau hefyd yn ymgynghori â’r chwe phanel dinasyddion yn Nhorfaen a phum cyngor cymuned. Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 11.59pm, ddydd Sul 7 Mai.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein yn ddienw, neu gallwch gofrestru a chael gwybod am ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Bwriedir creu’r newidiadau i'r biniau porffor  ym mis Mawrth 2024. Byddant yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â chamau i ehangu'r gwasanaeth ailgylchu o'r gwanwyn hwn, gan gynnwys:  

  • Ailgylchu hen fatris o fis Ebrill.
  • Casglu cardbord ac eitemau trydanol bach, o’r haf hwn.
  • Mwy o gefnogaeth ailgylchu i drigolion sy'n byw mewn fflatiau.
  • Mwy o ailgylchu gwastraff masnach.
  • Mwy o addysg a gwybodaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn deall y bydd gan rai trigolion bryderon o ran sut y byddan nhw'n ymdopi gyda llai o gasgliadau biniau tenau. Byddwn yn cefnogi'r trigolion hynny sydd angen help.  

“Rydym hefyd yn gwybod bod angen i ni wneud gwelliannau i'r gwasanaeth ailgylchu yn ei gyfanrwydd, fel ein bod yn gallu darparu gwasanaeth y gall trigolion ddibynnu arno. 

“Ond y gwir amdani yw, nid yw gwneud dim yn opsiwn. Os na fyddwn ni’n llwyddo i daro targed Llywodraeth Cymru, sef 70 y cant erbyn 2025, fe allem wynebu dirwyon o hyd at £100,000 am bob canran a fethir. 

“Mae cynyddu ailgylchu yn rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur y cyngor a'n Cynllun Sirol, gan ei fod yn well i'r hinsawdd, yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol.”  

I gael mwy o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm ar wastecollectionchanges@torfaen.gov.uk neu 01495 762200.

Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y cyngor ar ein gwefan a chlicio yma i ddarllen mwy am y Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig