Cyfleoedd i wirfoddoli am y Gwanwyn Glân

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Mawrth 2023

Bydd ymgyrch flynyddol Gwanwyn Glân Torfaen yn dechrau Dydd Llun ac yn mynd am bron i bythefnos.

Mae sesiynau codi sbwriel wedi eu trefnu mewn deg o fannau ledled y fwrdeistref, gan gynnwys siopau Fairwater yng Nghwmbrân; y ceunant yng Ngorllewin Tal-y-waun a Llynnoedd y Garn ym Mlaenafon.

Os hoffech chi gymryd rhan mewn digwyddiad, galwch draw yno a chofrestrwch ar y diwrnod.   Fel arall, i drefnu eich digwyddiad eich un, cysylltwch os gwelwch yn dda â oliver.james@torfaen.gov.uk neu Mark.panniers@torfaen.gov.uk

Mae’r mannau ar gyfer codi sbwriel isod – gallwch weld y wybodaeth hefyd ar wefan Cyngor Torfaen a Chysylltu Torfaen.

Manylion digwyddiadau:

Dyddiad: Dydd Llun 27 Mawrth
Amser: 1pm – 3pm
Man casglu sbwriel: Canolfan Pishyn Tair a’r Coetiroedd Cyfagos, Cwmbrân
Man cyfarfod: Canolfan Pishyn Tair

Dyddiad: Dydd Mawrth 28 Mawrth
Amser: 1pm – 3pm
Man casglu sbwriel: Coetiroedd Fairwater a siopau Fairwater a’r maes parcio, Cwmbrân
Man cyfarfod: Maes Parcio Siopau Fairwater 

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mawrth
Amser: 9:30am – 12pm
Man casglu sbwriel: Chapel Lane i Edlogan Way, Llwybr yr Afon
Man cyfarfod: Maes Parcio Chapel Lane (wrth y Bont)

Dyddiad: Dydd Iau 30 Mawrth
Amser: 9.30am – 12pm
Man casglu sbwriel: Llynnoedd y Garn, Blaenafon
Man cyfarfod: Prif Faes Parcio, Garn yr Erw 

Dyddiad: Dydd Gwener 31 Mawrth
Amser: 9:30am – 12:30pm
Man casglu sbwriel: Parc Sandybrook a’r llwybrau cysylltiol
Man cyfarfod: Maes Chwarae Parc Sandybrook, Sain Derfel, Cwmbrân

Dyddiad: Dydd Sadwrn 1 Ebrill
Amser: 10am – 3pm
Man casglu sbwriel: Y Ceunant – I’r Gorllewin o Dal-y-waun
Man cyfarfod: Defnyddiwch ‘What 3 words’ os gwelwch yn dda ar gyfer y lleoliad, gan ddefnyddio: Guideline, Sunflower, Hurricane.

Oherwydd natur heriol y dirwedd, mae’r digwyddiad yma ar gyfer oedolion yn unig a’r rheiny sy’n ddigon ffit a hyderus i gerdded llethrau serth.

Dyddiad: Dydd Llun 3 Ebrill
Amser: 9.30am – 12pm
Man casglu sbwriel: Llwybrau o Ysgol Gorllewin Mynwy i Tesco
Man cyfarfod: St Matthews Road, islaw o’r man troi i fysiau

Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Ebrill
Amser: 9.30am – 12:30pm
Man casglu sbwriel: Y Llyn Cychod, Cwmbrân
Man cyfarfod: Prif faes parcio

Dyddiad: Dydd Mercher 5 Ebrill
Amser: 9.30am – 12:00am
Man casglu sbwriel: Ponthir, tua’r de ar hyd yr afon
Man cyfarfod: Barnfield, Ponthir

Dyddiad: Dydd Iau 6Ebrill
Amser: 9.30am – 12:30am
Man casglu sbwriel: Rosemary Lane, tu cefn i hen fanc HSBC a’r cyffiniau
Man cyfarfod: Maes Parcio Rosemary Lane

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’n diolch ni’n fawr i wirfoddolwyr am eu gwaith wrth helpu i gadw’r fwrdeistref yn lân.  Gyda’n gilydd, rydym i gyd am gadw Torfaen yn lân ac yn wyrdd, nid yn unig nawr, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Hoffwn annog trigolion i gymryd rhan yn y Gwanwyn Glân eleni os oes amser sbâr gyda nhw. Nid yn unig byddech chi’n helpu i lanhau mannau hardd y fwrdeistref, ond byddwch hefyd un cwrdd â chriw o bobl sy’n meddwl fel chi.

Gofynnir i wirfoddolwyr wisgo dillad addas at y tywydd, menig ac esgidiau cadarn sy’n cadw dŵr allan i’r digwyddiadau, gan fod rhai mannau’n gallu bod yn anwastad neu’n wlyb.  Bydd offer codi sbwriel yn cael ei roi ar y diwrnod a bydd sgwrs am ddiogelwch.  Dewch â diod gyda chi os yw’r rhagolygon yn awgrymu tywydd cynnes.

Eleni, gofynnir i wirfoddolwyr roi eitemau mewn bagiau ar wahân fel y gallan nhw gael eu hailgylchu ble mae hynny’n bosibl.

I wybod mwy am gyfleoedd i godi sbwriel, ymunwch â’n tudalen Facebook, Torfaen Greener Cleaner Volunteers i gymryd rhan.

Mae’r prosiect yma’n cyfrannu ar amcanion lles y cyngor i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur trwy weithio tuag at gyflenwi’r Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio.  Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y cyngor yma.

I ddysgu mwy am gyfleoedd i wirfoddoli yn Nhorfaen ewch i wefan Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/03/2023 Nôl i’r Brig