Fferm Greenmeadow yn ailagor i'r cyhoedd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Mawrth 2023

Daw bywyd newydd unwaith eto i Fferm Gymunedol Greenmeadow yng Nghwmbrân a hynny mewn da bryd ar gyfer tymor yr haf.

Ym mis Hydref, fe gymeradwyodd cynghorwyr Torfaen gynllun gwerth £1.77m i ailddatblygu'r fferm boblogaidd yng Nghwmbrân.  Nod yr uwch gynllun, sy'n cynnwys gweithgareddau antur awyr agored newydd, ardal chwarae meddal dan do a bar trwyddedig, yw trawsnewid y safle 120 erw yn un o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn y rhanbarth.

Bydd y fferm sydd wedi bod ar gau dros y gaeaf, bellach yn ailagor yn rhannol i'r cyhoedd yr haf hwn, a bydd yn parhau ar agor drwy gydol yr haf tra bo'r gwaith ailddatblygu mawr yn parhau.

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau yn Nhorfaen:

“Mae'r prosiect yn symud ymlaen er bod effaith chwyddiant sylweddol ar ddeunyddiau adeiladu wedi creu pwysau o ran costau, felly rhaid oedd mynd ati eto i ymgysylltu gyda darpar ddatblygwyr ynghylch y dylunio a’r gwaith adeiladu. Mae'r sgyrsiau hyn yn parhau. Er bod dal gennym rywfaint o hyblygrwydd o ran dylunio, rhaid i ni ar yr adeg gynnar hon yn y prosiect, sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyheadau cyffrous ar gyfer y fferm o fewn y gyllideb a gymeradwywyd yn flaenorol gan gynghorwyr, a hynny er budd pawb.  

“Mae dal angen cytundeb cynllunio, yn ogystal â sawl arolwg ar gyfer cam nesaf y prosiect, yn cynnwys arolwg ystlumod ar gyfer yr adeilad presennol. Ac, yn dibynnu ar y tywydd, ni fydd modd ei gwblhau tan i’r ystlumod ddeffro o’u gaeafgwsg ym mis Ebrill neu Fai. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn ac arolygon eraill ar gyfer y safle yn arwain at gynlluniau mwy manwl, y byddwn yn eu rhannu pan fyddant wedi eu cwblhau.  Oherwydd y newidiadau, mae’r datblygwyr wedi dweud wrthym y bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu cwblhau yn ystod y gwanwyn, 2025.

“Gwyddom fod y cyhoedd yn awyddus iawn i ailymweld â’r fferm ar ei newydd wedd, ac mae ein gweledigaeth ar gyfer y fferm yn destun cyffro mawr. Felly, diolchwn i bawb am eu hamynedd. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod cynnyrch eu llafur yn iawn ac yn sicrhau gwerth am arian ar yr un pryd. Wrth ailagor y mannau awyr agored ar y fferm yn yr haf, caniateir i’r cyhoedd fynd ati i fwynhau’r anifeiliaid a’r profiadau sydd gan y fferm i’w cynnig, a hynny tra bod y gwaith yn mynd rhagddo."

Diwygiwyd Diwethaf: 09/03/2023 Nôl i’r Brig