Wedi ei bostio ar Dydd Llun 19 Mehefin 2023
Waste Warriors from Woodlands Road Primary School
Mae ysgolion cynradd wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd a drefnir gan Wasanaeth Arlwyo Cyngor Torfaen i helpu i leihau gwastraff bwyd amser cinio.
Mae pedair ysgol ar ddeg, yn cynnwys Ysgol Gynradd Woodland yng Nghwmbrân, eisoes wedi cofrestru yng nghystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff, sy’n galw ar ddisgyblion i ddyfeisio ymgyrch i leihau gwastraff bwyd yn eu hysgolion.
Mae gan ysgolion tan ddydd Gwener 23 Mehefin i gofrestru, a rhaid derbyn ceisiadau erbyn dydd Gwener 14 Gorffennaf.
Bydd yr ysgol sy’n llwyddo i leihau’r gwastraff mwyaf yn ennill sesiwn goginio iach a difyr gyda Coginio ‘da’n Gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Bydd y fenter hon yn helpu i gynyddu’r bwyd sy'n cael ei ailgylchu yn y fwrdeistref. Mi fydd hefyd yn addysgu plant am bwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd, ei effaith ariannol a’i effaith ar yr amgylchedd.
“Hefyd, drwy ddarganfod pa fath o fwyd sy'n cael ei wastraffu fwyaf mewn ysgolion, bydd y tîm yn gallu addasu bwydlenni, ac yn ei dro, y bwyd sy'n cael ei weini. Bydd prydau bwyd yn parhau i fod yn gytbwys o ran maeth, ond gobeithio y bydd llai ohono yn cael ei wastraffu.”
Bydd pob ysgol sy'n cymryd rhan yn derbyn cloriannau, fel y gallant fonitro a chofnodi faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu yn y neuadd ginio.
Gall disgyblion ddefnyddio'r wybodaeth i ymchwilio pam mae bwyd yn cael ei daflu, a chynllunio ymgyrch i annog disgyblion i wastraffu llai o fwyd. Cynigir cyfle i’r ysgolion hefyd ddefnyddio fframiau ‘hunluniau’ pwrpasol yn rhan o’u hymgyrchoedd.
Mae'r gystadleuaeth yn un o'r ffyrdd y mae Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Torfaen yn anelu at wneud ciniawau ysgol yn fwy cynaliadwy.
Ers mis Hydref y llynedd, mae tîm gwastraff ac ailgylchu Cyngor Torfaen wedi bod yn treialu gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd newydd ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd drwy ddefnyddio tîm arlwyo'r cyngor.
Mae'n un o nifer o ffyrdd sydd gan y cyngor i gynyddu cyfraddau ailgylchu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef ailgylchu 70 y cant erbyn 2024-2025.
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth anfonwch e-bost at louise.gillam@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07946 341718.
Dysgwch fwy am Arlwyo mewn ysgolion cynradd.