Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023
Heddiw dadorchuddiwyd y cyntaf o dri darlun sy’n anrhydeddu milwyr lleol a gollodd eu bywydau mewn rhyfel.
Lladdwyd y Preifat James Prosser, a wasanaethodd gydag 2il Fataliwn y Cymry Brenhinol, wrth iddo wasanaethau, ym Medi 2009, yn 21 oed.
Yn gynharach heddiw, cafodd darlun o’r Preifat Prosser, a baentiwyd ac a roddwyd gan yr artist o fri Kev Wills, ei ddadorchuddio yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl.
Mae Wills yn gweithio ar hyn o bryd ar gyfres a elwir "The Fallen of Afghanistan," sy’n cynnwys mwy na 400 o ddarluniau, gyda’r gobaith o’u rhoi i deuluoedd neu anwyliaid yr arwyr marw yma.
Mae darluniau o’r Preifat Kyle Adams, 21 oed hefyd, a’r Corporal Michael Thacker, 27 oed, wedi cael eu comisiynu gan y cyngor hefyd a byddant yn cael eu dadorchuddio yn y dyfodol.
Cafwyd seremoni i nodi’r dadorchuddiad gydag aelodau o deulu James, cynghorwyr a chyn-filwyr yn bresennol.
Mae dau blac wrth ochr y darluniau, yn talu teyrnged i’r tri milwr.
Bydd y Ganolfan Ddinesig nawr yn arddangos y gwaith celf yma gerbron y cyhoedd, gan roi cyfle i unigolion dalu teyrnged a chofio cyfraniad yr unigolion yma mewn bywyd.
Agorwyd y seremoni gan Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, a ddywedodd: "Mae’n anrhydedd gennym ddadorchuddio’r darlun grymus yma o’r Preifat James Prosser. Rwy’n edrych ymlaen at weld Kyle Adams a Michael Thacker wrth ei ochr, fel y gallwn ni dalu teyrnged i ddewrder ac aberth ein harwyr lleol a sicrhau eu bod yn cael eu cofio gan bawb sy’n ymweld â swyddfeydd y cyngor.”
Y mis diwethaf, lansiodd y Cyngor hwb cefnogaeth newydd i’r lluoedd arfog, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
Mae’r hwb yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road yng Nghwmbrân pob dydd Mercher, ac mae ar agor o 10am tan 12pm.