Mae Caffi Atgyweirio Torfaen eich angen chi

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Chwefror 2023
collage

Photos of the Repair Cafe in Pontypool Indoor market

Mae mwy na 50 o eitemau trydanol wedi eu hachub o’r bin sbwriel diolch o Gaffi Atgyweirio Torfaen.

Agorodd y caffi ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl fis Hydref ar, ers hynny, mae 54 o eitemau wedi cael eu hatgyweirio, gan gynnwys driliau trydan, glanhawyr, tegellau a thostwyr.

Mae Caffi Atgyweirio Torfaen yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Wastesavers mewn partneriaeth â’r Cyngor ac mae ar agor bob dydd Mercher rhwng 9.30am a 12.30pm. Er mwyn agor ar fwy o ddiwrnodau, mae Ian Pearce, Cydlynydd y Prosiect, yn chwilio nawr am wirfoddolwyr i helpu i agor y caffi ar ddiwrnodau eraill.

Dywedodd un o’r Gwirfoddolwyr, Kevin Cox, o Ben-y-garn: “Rwy’n mwynhau gweithio yn y siop gydag Ian yn fawr iawn, mae’n dda gwybod eich bod yn trwsio rhywbeth a oedd yn mynd i gael ei daflu.

“Mae’n stopio pobl rhag prynu eitemau newydd sydd hyd yn oed yn fwy pwysig nag erioed gan fod arian mor brin.

“Rydw i wastad wedi bod yn berson sy’n trwsio pethau, felly roeddwn i’n meddwl y buaswn i’n helpu ychydig mwy.”

Ddydd Mercher, daeth Nick Thomas-Symonds AS i ymweld â’r caffi, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen ac Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers.

AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds: “Roeddwn i’n falch iawn o gael ymweld â Chaffi Atgyweirio Torfaen yr wythnos yma a siarad â’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd ynghlwm wrth y prosiect lleol anhygoel yma.

“Mae atgyweirio ac ailddefnyddio pethau yn ffordd hanfodol o leihau ein gwastraff, ac roedd yn wych gweld cymaint o drigolion yn defnyddio’r Caffi trwy ddod ag eitemau i’w trwsio.”

Dywedodd y Cynghorydd  Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym wrth ein bodd bod y Caffi Atgyweirio’n dal i fod yn brysur, ac rydym yn annog trigolion i ymweld cyn ailgylchu eitem drydanol fach.  Gallai fod yn rhywbeth hawdd ei drwsio.

“Dylai atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau fod yn ddewis cyntaf bob tro cyn ailgylchu neu eu danfon i’w llosgi, felly rydym yn gobeithio y bydd trigolion yn achub ar y cyfle yma.

“Mae gweithio gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers yn bleser bob tro ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau am amser hir.”

Dywedodd Alun Harris, Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers: “Mae Caffis Atgyweirio’n rhan annatod o Atgyweirio ac Ailddefnyddio ledled Cymru ac mae’n wych gweithio mewn partneriaeth â CBS Torfaen i sefydlu un ym Mhont-y-pŵl. Mae’n lle gwych i bobl alw heibio gyda’u heitemau i’w trwsio, i arbed arian a helpu’r amgylchedd.”

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer y Siop Atgyweirio, ffoniwch Ian Pearce ar 01633 281287 neu e-bostiwch ianpearce@wastesavers.co.uk

Mae caffi Atgyweirio Torfaen yn ymuno â rhwydwaith o gaffis Repair Café Wales. I wybod mwy, ewch i https://repaircafewales.org/

Mae Caffi Atgyweirio Torfaen a siop Ailddefnyddio Steelhouse, yn y Dafarn Newydd, yn helpu pobl yn Nhorfaen i ailddefnyddio eitemau a lleihau gwastraff.

Mae lleihau ac ailddefnyddio eitemau yn arbed arian ac yn lleihau’r angen am gynhyrchu deunydd newydd sy’n helpu i leihau allyriadau carbon. Am fwy o wybodaeth am leihau ac ailgylchu, ewch at ein gwefan  #TorriCarbonTorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 17/02/2023 Nôl i’r Brig