Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Chwefror 2023
Bydd gwaith yn dechrau’r wythnos nesaf i drawsnewid dau barc i blant yn fannau chwarae cynhwysol.
Bydd offer chwarae newydd yn cael ei osod ym Mharc Pont-y-pŵl ac wrth Lyn Cychod Cwmbrân i wneud y mannau chwarae yn rhai mwy addas i’r rheiny ag anghenion arbennig gan gynnwys namau synhwyraidd.
Bydd gwaith yn dechrau ym Mharc Pont-y-pŵl yr wythnos nesaf a bydd y dyluniad yn cynnwys offerynnau cerdd awyr agored, paneli chwarae synhwyraidd gan gynnwys paneli drych a marciau ar y tir chwarae.
Bydd gwaith adeiladu’n dechrau wrth Lyn Cychod Cwmbrân yn gynnar fis Mawrth a bydd yn cynnwys nifer o siglenni, si-so hygyrch, reid cylch a phaneli synhwyraidd.
Bydd y man chwarae ym Mharc Pont-y-pŵl ar gau am ryw wyth wythnos tra bod gwaith yn digwydd, a bydd cyfyngiad ar fynediad ar rai rhannau o’r Llyn Cychod yn ystod y cyfnod adeiladau.
Helpodd plant a staff yn Ysgol Crownbridge, Cwmbrân, Canolfan TOGS yn y Dafarn Newydd, ac arbenigwyr mewn awtistiaeth i ddylunio’r parciau.
Dywedodd Levi Barnby, Disgybl-Lywodraethwr, Ysgol Crownbridge: “Aethon ni i’r parciau a helpon ni i ddewis beth oedd ei angen ar y parciau i’w gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Roedd yn gyffrous iawn. Gallwn ni ddim aros i ymweld â nhw.”
Bydd cyfanswm o £330,000 yn cael ei fuddsoddi yn y mannau chwarae diolch i Gronfa Adferiad Covid Cyngor Torfaen ac mae hyn yn cynnwys cost gosod systemau traenio cynaliadwy ar y safle i leihau llifogydd.
Mae Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl wedi cyfrannu rhyw £5,000 tuag at gost yr offerynnau cerdd ym Mharc Pont-y-pŵl, yn ogystal â’r reid cylch a osodwyd llynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae cael parciau chwarae cynhwysol yn y fwrdeistref mor bwysig ar gyfer iechyd a lles plant, ac rydym yn gobeithio y bydd gan mwy o’n parciau offer cynhwysol yn y dyfodol.
“Mae mannau chwarae synhwyraidd yn arbennig o fuddiol i blant sy’n cael trafferth gyda symud, gweld a theimlo.
“Mae’r offer chwarae newydd yma’n golygu y bydd plant i gyd yn cael chwarae yn yr un parc ar yr un pryd. Does dim ots a oes gennych anabledd ai peidio, chwarae yw chwarae, ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith yr offer cynhwysol yma ar blant a’u teuluoedd.”