Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023
Mae’r wythnos yma’n nodi dechrau ymgyrch flynyddol Bydd Wych, Ailgylcha gyda’r bwriad o gynyddu ailgylchu gwastraff bwyd.
Oeddech chi’n gwybod bod yr holl wastraff bwyd yng Nghymru’n cael ei droi’n ynni gwyrdd?
Llynedd, creodd ailgylchu gwastraff bwyd ddigon o ynni adnewyddol ar gyfer 10,400 o gartrefi yng Nghymru.
Ond mae tua 100,000 o dunelli metrig o wastraff bwyd yn dal i fynd i’r bin sbwriel cyffredinol – digon o ynni ar gyfer 7,500 yn fwy o dai.
Dros y pythefnos nesaf, bydd Cyngor Torfaen yn rhannu cyngor trwy’r cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â sut i ailgylchu bwyd, yn ogystal â ffeithiau a ffigyrau ynglŷn â sut mae ailgylchu bwyd yn helpu i leihau allyriadau carbon. Gan gynnwys...
- Mae 2 groen banana yn cynhyrchu digon o ynni i wefru ffôn clyfar am benwythnos.
- Mae un cadi o wastraff bwyd yn cynhyrchu digon o ynni i yrru teledu am ddwy awr.
- Byddai 715 o gadis yn cynhyrchu digon o ynni i oleuo llifoleuadau Stadiwm am gêm gyfan.
- Gallwch roi unrhyw un o’r canlynol i mewn i gadis ailgylchu bwyd: bwyd sydd heb ei fwyta a sbarion oddi ar blatiau; bwyd ar ôl ei ddyddiad neu wedi llwydo; cig a physgod amrwd ac wedi eu coginio, gan gynnwys esgyrn; ffrwythau a llysiau gan gynnwys llysiau amrwd ac wedi eu coginio a phlicion; nwyddau wedi eu pobi fel bara a chacennau; cynnyrch llaeth, wyau a phlisg wyau; bagiau te wedi eu defnyddio a ffa coffi; bwyd anifeiliaid, reis, pasta a ffa.
Cefnogir ymgyrch eleni gan y cogydd adnabyddus a chyn perfformiwr gyda Dirty Sanchez, Matthew Pritchard.
Cymru yw’r trydydd wlad orau yn y byd wrth ailgylchu ac mae ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha Llywodraeth Cymru yn ceisio ein helpu i gyrraedd y brig.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae tua 60 y cant o aelwydydd yn Nhorfaen eisoes yn ailgylchu gwastraff bwyd, sy’n wych.
Ond mae angen i bob aelwyd ailgylchu gwastraff bwyd os ydym ni am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70 y cant o wastraff yn cael ei ailgylchu erbyn 2025.
"Rydym yn gwybod nad yw rhai trigolion yn ailgylchu bwyd chwaith, naill ai oherwydd nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod nhw’n gallu gwneud, neu am eu bod yn bryderus am bethau fel arogl, llygod neu glêr.
"Mae ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha yn ffordd wych o fynd i’r afael a rhai o’r pryderon yma fel bod pobl yn teimlo’n fwy hapus wrth roi eu gwastraff bwyd mewn cadi ailgylchu yn hytrach nag yn y biniau gwastraff cyffredinol."
I ddysgu mwy am yr ymgyrch, dilynwch Gyngor Torfaen trwy Facebook, Instagram a Twitter a chwiliwch am #ByddWychAilgylcha neu #TorriCarbonTorfaen.
Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu pob wythnos yn Nhorfaen. I ddysgu mwy am sut i ailgylchu gwastraff bwyd, ewch at ein gwefan.
Gallwch gasglu cadis bwyd gwyrdd ar gyfer eich cegin a chadis brown mwy i’w rhoi allan i’w casglu – yn ogystal â bagiau bin bwyd am ddim – o’n canolfannau cyswllt cwsmeriaid.
Mae gan bob cadi dolenni y gellir eu cloi sy’n lleihau’r perygl o arogleuon a phlâu. Gallwch ddefnyddio unrhyw fagiau plastig mewn cadis bwyd, gan gynnwys papurau lapio bwyd fel bagiau bara.
Mae Cyngor Torfaen yn adolygu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ac mae disgwyl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach drafod adroddiad ddydd Iau. Gallwch ddarllen mwy yma.