Dronau yn gymorth i fynd i'r afael â gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023

Mae prosiect wedi cael cyllid i ariannu dau heddwas a’r dechnoleg ddiweddaraf i fynd i’r afael â gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd.

Mae’r fenter rhwng cynghorau Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili a Heddlu Gwent wedi bod ar waith ers dechrau mis Tachwedd. Hyd yn hyn, mae wedi arwain at ymafael mewn 10 cerbyd anghyfreithlon a oedd yn cael eu gyrru oddi ar y ffordd.

Mae’r awdurdodau lleol wedi buddsoddi £122,220 o arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ariannu swyddi’r swyddogion, drôn, Land Rover a beic cwad er mwyn dal pobl sy’n reidio beiciau sgramblo, beiciau cwad a beiciau modur yn anghyfreithlon ar lethrau’r mynyddoedd.

Cyngor Torfaen sy’n arwain y prosiect a bydd yn golygu bod Cwnstabl yr Heddlu a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi eu lleoli yn ardal yr ucheldir am 60 y cant o’u hamser.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Yr Amgylchedd: “Mae gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn achosi difrod amgylcheddol sylweddol a gall fod yn niwsans i anifeiliaid a pherchnogion tir.

“Rydyn ni wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn ers meitin, ond oherwydd y lleoliad ynysig a’r diffyg adnoddau mae wedi bod yn anodd dal troseddwyr.

“Gobeithiwn y bydd y swyddogion a’r cyfarpar newydd yn dal unrhyw un sy’n gyrru’n anghyfreithlon ac y bydd hyn yn atal eraill rhag gwneud.

Meddai’r Uwch-arolygydd Mike Richards, sy’n goruchwylio’r ymateb plismona ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen: “Cynlluniwyd y fenter i weithio law yn llaw gydag Ymgyrch Harley, sef y dull gweithredu yr ydym wedi ei sefydlu i oresgyn y defnydd anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd yng Ngwent.  

“Mae ein timau cymdogaeth yn ymwybodol iawn o effaith bosibl gweithgarwch peryglus oddi ar y ffordd ar ein cymunedau ac maent yn parhau i gynnal gweithrediadau ‘goddef dim’ rheolaidd ar draws Gwent. 

"Hoffwn ddiolch i’n partneriaid - bydd eu cefnogaeth barhaus yn ein galluogi i roi sylw i’r mater yn uniongyrchol dros y blynyddoedd nesaf. A hoffwn ddiolch i’r cyhoedd hefyd. 

"Mae arnom angen gwybod ble mae’r beiciau hyn yn cael eu defnyddio a’u storio er mwyn i ni ymafael ynddynt a dod o hyd i’r unigolion sy’n aml ddim yn ystyried defnyddwyr eraill y ffordd, cymdogion neu gerddwyr.

“Mae’r wybodaeth a geir gan y cyhoedd yn elfen annatod i oleuo ein hymchwiliadau, gan ein helpu i gael gwared ar y cerbydau hyn o’n strydoedd."

Ychwanegodd Nick Smith, Aelod Seneddol Blaenau Gwent: “Mae gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn bla sy’n achosi difrod difrifol i’r amgylchedd, yn tarfu ar dda byw a bywyd gwyllt a hefyd yn dychryn ffermwyr a cherddwyr.

“Mae’r grŵp bwrdd crwn rhanbarthol a sefydlais i ganolbwyntio ar y broblem barhaus hon wedi clywed droeon pa mor anodd y gall fod i blismona mater sy’n digwydd i raddau helaeth ar gopaon mynyddoedd.

“Mae’n wych fod y cyfarpar newydd hwn yn ei le i helpu swyddogion i gael mynediad cyflym at yr ardaloedd hynny, i ddod o hyd i’r rheiny sy’n gyfrifol ac i gau’r rhwyd ar yrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd.”

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU sy’n biler canolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Mae’r Gronfa’n darparu nawdd gwerth £2.6 biliwn i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ein bro a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2023 Nôl i’r Brig