Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Awst 2023
Bydd criwiau’n gweithio fel arfer ar ddydd Llun Gŵyl y Banc felly ni fydd newid i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu’r wythnos nesaf.
Gofynnir i drigolion roi biniau, blychau a bagiau allan erbyn 7am ar eu diwrnod casglu arferol.
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc yn unol ag oriau agor yr haf, sef dydd Llun i ddydd Sadwrn 8am i 5.45pm, a dydd Sul 9am i 5.45pm.
Bydd siop ailddefnyddio Steelhouse ar agor hefyd rhwng 9.30am a 4.30pm.
I wybod mwy am sut i ailgylchu yn Nhorfaen.
Gall trigolion gael bagiau a blychau ailgylchu ychwanegol a gwybodaeth am beth sy’n gallu cael ei ailgylchu a beth nad sydd o’n canolfannau gofal cwsmeriaid.
Unrhyw gyngor neu syniadau ynglŷn â sut i leihau eich gwastraff neu sut i ailgylchu mwy? Ewch draw i fwrdd syniadau Codi’r Gyfradd i’w rhannu.
Bydd holl adeiladau’r cyngor, gan gynnwys canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid, y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid a llyfrgelloedd ar gau ddydd Llun Gŵyl y Banc a byddant yn ailagor ddydd Mawrth 29 Awst.
Gallwch dderbyn e-byst rheolaidd, dweud am broblemau neu ofyn am eitemau y tu allan i oriau agor trwy wefan ac ap y cyngor.