Gwanwyn glân yn taclo sbwriel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Ebrill 2023

Mae poteli plastig, pacedi creision, teiars ceir, sgwter a ffon golff ymhlith yr eitemau o sbwriel a godwyd fel rhan o Wanwyn Glân blynyddol Torfaen.  

Aeth dros 40 o wirfoddolwyr a phlant ysgol o ysgolion cynradd Croesyceiliog a Nant Celyn at 10 o fannau â sbwriel difrifol, gan gasglu cyfanswm o 130 o sachau o sbwriel, a 27 sach o bethau i’w hailgylchu.

Ochr yn ochr â chasglu gan y cyhoedd, casglodd tîm Strydlun y Cyngor 361 sach o sbwriel o rannau o’r A4042.

Dywedodd Oliver James, Swyddog newydd Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Torfaen: “Dyma fy nhro cyntaf yn trefnu digwyddiadau Gwanwyn Glân Torfaen ac roeddwn i’n falch iawn o weld brwdfrydedd y gwirfoddolwyr.   Maen nhw’n caru ble maen nhw’n byw ac maen nhw am i’r fwrdeistref fod yn lân ac yn wyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rwyf wedi gwneud cysylltiadau gwych gydag ysgolion a grwpiau cymunedol, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto yn y dyfodol.”

 Bydd Oliver yn gweithio’n agos gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a siopau bwyd cyflym i ddatblygu prosiectau sy’n lleihau faint o sbwriel sydd ar y strydoedd ac mewn mannau hardd. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Ar ran y Cyngor, hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd rhan.  Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol i lendid Torfaen.

“Hoffem ddiolch hefyd i unigolion a grwpiau sy’n codi sbwriel trwy gydol y flwyddyn, rydym yn gwerthfawrogi eich gwaith caled i gyd.

"Mae sbwriel yn hyll, yn frwnt ac mae’n gallu bob yn niweidiol i anifeiliaid.  Does dim esgus dros daflu sbwriel gan fod gyda ni dros 700 o finiau ar draws y fwrdeistref.

“Rydym yn fodlon bob amser cefnogi’r cyhoedd a grwpiau gyda chynlluniau codi sbwriel gan gynnwys cynnig cyngor a ble i gael benthyg offer, felly cysylltwch ar bob cyfrif os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi a’ch grŵp gymryd rhan ynddo.”

Digwyddodd casgliadau Gwanwyn Glân Torfaen yn: Y Ganolfan Pishyn Tair, coedwig a siopau Fairwater, o Chapel Lane i Edlogan Way, Llynnoedd y Garn, Parc Sandybrook, y ceunant i’r gorllewin o Dal-y-waun, llyn Cychod Cwmbrân, Rosemary Lane ac ar hyd yr afon ym Mhonthir.

Mae Gwanwyn Glân Torfaen yn digwydd pob blwyddyn ac mae’n gyfle i drigolion, busnesau, ysgolion ac asiantaethau eraill drefnu casgliadau sbwriel i helpu i lanhau’r fwrdeistref a chreu mannau di-sbwriel.

I ddysgu mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gyda’r amgylchedd gyda’r cyngor, cysylltwch ag  Oliver.James@torfaen.gov.uk, ymunwch â’n Grŵp Facebook, ewch i Gysylltu Torfaen neu ffoniwch 01495 762200

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2023 Nôl i’r Brig