Ymgynghoriad ar gynllun y gamlas

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Ebrill 2023
the-brecon-monmouthshire-canal_6099635110_o

Gall trigolion roi eu barn ar gynllun 10 mlynedd ynglŷn â sut bydd un o atyniadau mwyaf poblogaidd Torfaen yn cael ei datblygu a’i gwella.  

Mae Strategaeth drafft Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’n amlinellu sut y bydd y pedair milltir a hanner trwy Dorfaen yn cael eu rheoli ac mae’n cynnwys cynllun gweithredu sy’n cyflwyno gweithgareddau i wella amgylchedd y gamlas yn y tymhorau byr, canolig a hir.

Cafodd ei datblygu ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus hydref diwethaf, pan ddywedodd dros 1,200 o bobl wrthym ni'r hyn yr oedden nhw’n hoffi am y gamlas a sut yr hoffen nhw ei gweld yn cael ei gwella.

Gallwch ddarllen y strategaeth ddrafft a gwneud unrhyw sylwadau ar wefan Cymerwch Ran Torfaen. Fel arall, bydd y tîm yn cynnal dwy sesiwn galw heibio ar ddydd Iau 4 Mai.  Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar ddydd Mawrth 8 Mai.

Dywedodd Alice Rees, Cydlynydd Camlas Cyngor Torfaen: "Cawsom ni ymateb gwych i’n hymgynghoriad gyda miloedd o sylwadau gan bobl a ddywedodd wrthym ni eu bod yn defnyddio’r gamlas ar gyfer ymarfer corff a’u bod yn mwynhau’r llonyddwch a’r bywyd gwyllt.  

"Dywedon nhw wrthym ni hefyd beth allai gael ei wneud i wella’r profiad, fel darparu mwy o seddi a mynd i’r afael â phroblemau sbwriel. 

"Rydym wedi defnyddio’r wybodaeth yma i lunio a datblygu’r strategaeth ddrafft a’r cynllun gwaith. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu dull cam wrth gam o wneud y mwyaf o’n camlas hardd gan ei bod yn mynd trwy galon ein bwrdeistref a chalonnau’n trigolion."

Mae’r cynllun gweithredu’n cynnwys gweithgareddau i wella amgylchedd y gamlas, gan gynnwys: 

  • Gosod o leiaf 10 mainc a bin newydd sbon neu yn lle rhai presennol. 
  • Ailosod rhifau pontydd sydd ar goll.      
  • Rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu mwy am yr hanes a’r bywyd gwyllt. 

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae’r gamlas yn perthyn i bawb yn Nhorfaen, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynlluniau tymor byr, canolig a hir i’w datblygu a’i gwella."

Os hoffech chi drafod y strategaeth ddrafft yn bersonol, bydd y tîm yn cynnal sesiynau cyhoeddus ar ddydd Iau 4 Mai.  Byddan nhw ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, rhwng 10am a 1pm, a Chanolfan Gymunedol Cwmbrân, Ventnor Road, Cwmbrân, rhwng 3pm a 6pm. Nodwch os gwelwch yn dda: mae’r Ganolfan Gymunedol y tu ôl i brif Dŷ’r Cyngor.  Mae parcio am ddim ar gael.

Os hoffech chi roi eich barn a sylwadau yn Gymraeg yn unrhyw un o’n sesiynau, cysylltwch ag alice.rees@torfaen.gov.uk tri diwrnod cyn y sesiwn y byddwch yn dod iddi.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/04/2023 Nôl i’r Brig