Cannoedd yn cymryd rhan yn hwyl y Pasg

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Ebrill 2023
Easter montage

A selection of children having fun at the Play Service play sessions

Mae mwy na 850 o blant wedi cymryd rhan mewn wythnos o hwyl y Pasg, diolch i Wasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen.

Mae dros 100 o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr wedi darparu naw o sesiynau chwarae a lles i blant a phobl ifanc yr wythnos yma, yn ogystal â sesiynau arbenigol chwarae a seibiant i ryw 85 o blant.

Mae celf a chrefft, gemau, chwaraeon, nofio a sioeau talent ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael yn y gwersylloedd chwarae a lles, sydd wedi eu cynnig mewn partneriaeth â chynghorau cymuned lleol.

Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen: “Mae hi wedi bod yn wythnos wych arall o chwarae ac mae’n anhygoel bob tro gweld pobl yn cymryd rhan yn ein prosiect gwirfoddoli ieuenctid.

“Mae gweld wynebau hapus y plant a’r staff hefyd yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”

Cynhaliwyd sesiynau Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn: Stadiwm Cwmbrân, Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon, Ysgol Gynradd Blenheim Road, Ysgol Gynradd Garnteg, Ysgol Gynradd George Street, Ysgol Gynradd Nant Celyn, Canolfan Gymunedol Glenside, Canolfan Gymunedol Y Ddôl Werdd a Sain Derfel, Eglwys Victory.

Am fwy o wybodaeth am y sesiynau gwahanol sy’n cael eu cynnal gan y Gwasanaeth Chwarae yn ystod gwyliau ysgol a’r tymor, ewch at ein gwefan 

Gallwch ddarllen ar rai o wirfoddolwyr y gwasanaeth yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/04/2023 Nôl i’r Brig