Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Mawrth 2023
Roedd mwy na 180 o bobl ifanc o bob cwr o Dorfaen yn destun dathlu mawr yn seremoni wobrwyo Gwobrau Gwirfoddoli Gwasanaeth Chwarae Torfaen eleni.
Mae'r digwyddiad blynyddol yn cydnabod cyfraniadau eithriadol y gwirfoddolwyr chwarae sydd wedi cefnogi'r gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi helpu i ddarparu cannoedd o oriau o chwarae i blant a chymunedau ledled Torfaen.
Yr wythnos hon, daeth gwirfoddolwyr a'u teuluoedd ynghyd yn Theatr y Congress, yng Nghwmbrân, ar achlysur seremoni wobrwyo arbennig, lle cawsant eu cydnabod am ddarparu dros 26,000 o oriau gwirfodd eleni yn unig.
Maia Elsworthy, 17 oed o Goed Eva, gipiodd y wobr fawreddog ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ am fynd y tu hwnt i’w rôl fel gweithiwr chwarae.
Cafodd Maia ei chanmol am roi o’i hamser rhydd i gefnogi darpariaethau chwarae di-ri yn ystod y tymor a gwyliau ysgol, yn ogystal â sesiynau chwarae a seibiant ar benwythnosau.
 hithau’n ddawnswraig gyfoes, fodern a balet yn Ysgol Ddawns Gemini yn Nhre Gruffydd, daeth Maia â’i sgiliau i’r lleoliadau, gan greu cyfleoedd gwych i blant a phobl ifanc, a’r cyfan oll wrth iddi gydbwyso’i hastudiaethau a’i diddordebau.
Dywedodd Maia, a ddechreuodd ar ei siwrnai gwirfoddoli yn haf 2021, “Roedd ennill y wobr yn hon yn syndod llwyr i mi, ond rydw i mor ddiolchgar. Doedd gen i ddim syniad! Rydw i wir wedi mwynhau gwirfoddoli ac rwyf wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd.
“Buaswn yn argymell y rhaglen hon i unrhyw un! Mae wedi agor fy meddwl i gymaint o brofiadau a chyfleoedd newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at fy nyfodol gyda Chwarae Torfaen.”
Amcangyfrifir bod Chwarae Torfaen wedi cefnogi dros 2000 o bobl ifanc dros y 21 mlynedd diwethaf i wirfoddoli mewn lleoliadau chwarae cymunedol, sydd wedi cronni dros 220,000 o oriau o wirfoddoli.
Mae'r prosiect hefyd wedi dod yn llwybr poblogaidd i bobl ifanc o bob gallu a chefndir yn Nhorfaen.
Ar y noson, cyflwynwyd tystysgrifau hefyd i Wirfoddolwyr yr Haf, Gwirfoddolwyr a weithiodd yn Ystod y Tymor, Prentisiaid a Hyfforddeion.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Plant, Teuluoedd a Chymunedau: “Rwy'n hynod falch o'n holl wirfoddolwyr, mae eu hymroddiad a'u brwdfrydedd i gefnogi ein lleoliadau chwarae yn hollbwysig. Llongyfarchiadau i Maia am dderbyn cydnabyddiaeth mor haeddiannol yn y rôl. Mae hi wir yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl ifanc ar draws Torfaen.
Heb ein gwirfoddolwyr, ni fyddem yn gallu parhau i gefnogi cymaint o blant a chymunedau ag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Maent yn hynod werthfawr i'r hyn yr ydym yn ei gynnig ac maent yn enghraifft wych o gynnwys pobl ifanc yn ein cymunedau.”
Mae'r gwaith o recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer yr haf eisoes wedi dechrau.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am swydd wirfoddol gyda'r Gwasanaeth Chwarae drwy lenwi eu ffurflen gais ar-lein ar wefan Cyngor Torfaen.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 31 Mawrth.
I gael gwybodaeth bellach am y gwahanol fathau o wirfoddoli a hyfforddiant sydd ar gynnig, ffoniwch 01495 742951 neu anfonwch e-bost at andrea.sysum@torfaen.gov.uk