Taliad Tanwydd y Gaeaf

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 26 Medi 2022

Mae taliad unwaith ac am byth o £200 i helpu aelwydydd cymwys gyda chostau tanwydd y gaeaf yma wedi agor i dderbyn ceisiadau.

Mae Cyngor Torfaen yn gweithio i adnabod aelwydydd cymwys a bydd yn ysgrifennu atynt dros y pythefnos nesaf i esbonio sut caiff y taliadau eu gwneud.

Rhagwelir y bydd rhyw 8,000 o aelwydydd yn derbyn y taliad yn awtomatig o fewn wythnos gyntaf y cynllun.

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ond nad ydych yn derbyn llythyr erbyn 7 Hydref 2022, gallwch wneud cais arlein drwy wefan Cyngor Torfaen.

Mae angen cyflwyno ceisiadau cyn 5pm ar ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023.

Mae’r taliad yn ychwanegol i ad-daliad Bil Ynni £400 Llywodraeth y DU a’r Taliad tanwydd Gaeaf arferol a delir i bensiynwyr.

Bydd yn un tâl fesul aelwyd, os oes gennych fesurydd rhagdalu, yn talu drwy ddebyd uniongyrchol neu’n derbyn biliau chwarterol.

Gellir hawlio’r taliad os ydych yn defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi ar y grid.

Nod Cyngor Torfaen yw gwneud pob taliad o fewn 30 diwrnod o dderbyn cais dilys.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023 Nôl i’r Brig