Gyrwyr yn cael dirwyon yn y fan a'r lle

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

Roedd gyrwyr cerbydau diffygiol yn wynebu camau yn eu herbyn yr wythnos ddiwethaf, ar ôl ymgyrch aml-asiantaeth gan swyddogion o Gyngor Torfaen, Heddlu Gwent a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).

Fel rhan o ymgyrch i ddelio gyda ‘Masnachwyr Twyllodrus’, stopiodd swyddogion o dîm Safonau Masnach a Thrwyddedu Cyngor Torfaen, Heddlu Gwent a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) 34 o gerbydau masnachol yng Nghwmbrân dros ddau ddiwrnod, gan gynnwys tacsis, faniau a thryciau.

Nodwyd diffygion, gan gynnwys teiars diffygiol, llwythau peryglus a lliwiau anghyfreithlon ar ffenestri – yn golygu troseddau posibl – gyda phum cerbyd.

Cyflwynwyd pump hysbysiad gwahardd gan y DVSA yn gofyn am weithredu ar unwaith, yn cynnwys diogelu llwythau a newid teiars/ Hefyd rhoddwyd pedwar hysbysiad gwahardd gohiriedig ar gyfer diffygion eraill.

Siaradodd swyddogion o dîm Trwyddedu a Safonau Masnach y Cyngor gyda phob gyrrwr i roi cyngor ar gyflawni eu rhwymedigaethau i sicrhau bod eu harferion masnachu yn ddiogel a chyfreithlon.

Ynghyd â gwirio cerbydau, roedd swyddogion hefyd allan yn y gymuned yn ymweld â busnesau mewn perthynas â nwyddau ffug.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: "Mae’n hanfodol bod holl gerbydau masnachol yn ddiogel ac yn ffit i fod ar y ffordd, yn enwedig os ydych yn eu defnyddio i gludo pethau.

“Mae cerbydau diogel yn helpu i leihau perygl damweiniau, a dyma pam y mae ymgymryd ag archwiliadau ar hap fel hyn yn bwysig i adnabod diffygion a’r sawl a all fod yn masnachu’n anghyfreithlon.

“Mae masnachwyr twyllodrus sy’n gweithredu gyda cherbydau masnachol yn aml yn fanteisgar, gan dargedu’r mwyaf agored i  niwed yn ein cymuned er mwyn gwneud elw.

“Gall troseddau fel hyn gael effaith anferth ar ddioddefwyr ac ni fyddwn yn eu goddef yn Nhorfaen. Rydym yn parhau i annog trigolion i gysylltu â’n tîm safonau masnach drwy ffonio 01495 762200 neu ebostio trading.standards@torfaen.gov.uk os ydynt yn amau arferion masnachu twyllodrus.”

Dysgwch fwy am yr hyn y mae’r tîm safonau masnach yn ei wneud yn ystod Wythnos Safonau Masnach Cymru drwy ddilyn y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddilyn yr hashnod  

#NiYwSafonauMasnachCymru

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2022 Nôl i’r Brig