Offer chwarae hygyrch Newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Hydref 2022
Ability Whirl

Bydd offer chwarae cynhwysol newydd yn cael ei osod ym Mharch Pont-y-pŵl yr wythnos nesaf.

Bydd y cylchdro a thrampolîn ar gyfer cadeiriau olwyn yn cael eu gosod ym maes chwarae’r plant, gyferbyn â’r ganolfan hamdden, diolch i fuddsoddiad gan Gronfa Adferiad Ar Ôl Covid Cyngor Torfaen a Chyngor Cymuned Pont-y-pŵl.

Bydd y maes chwarae ar gau’r wythnos nesaf tra bod y gwaith yn cael ei wneud ond y gobaith yw y bydd yn ailagor yn ystod hanner tymor.

Mae’r gwaith yn rhan gyntaf prosiect i wneud meysydd chwarae Parc Pont-y-pŵl a Llyn Cychod Cwmbrân yn fwy hygyrch, diolch i dros £250,000 o gronfa adferiad Covid. 

Yn gynharach eleni, gofynnwyd i drigolion pa offer chwarae cynhwysol y byddent yn hoffi gweld yn cael ei osod yn y ddau barc.

Ers hynny, mae Cyngor Torfaen wedi bod yn gweithio gyda grŵp prosiect, gan gynnwys arbenigwyr mewn plant ag anableddau ac awtistiaeth, i gymryd y syniadau hynny a’u troi’n ddyluniadau.

Bydd y cynlluniau ar gyfer y ddau barc yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach y flwyddyn hon, gyda gwaith i ddechrau fis Ionawr. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae cael parciau chwarae cynhwysol yn y fwrdeistref yn bwysig i iechyd a lles plant, ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o offer cynhwysol yn ein parciau yn y dyfodol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr Aelod Gweithredol dros Blant, teuluoedd a Chymunedau: “Mae ardaloedd chwarae synhwyraidd yn arbennig o fuddiol i blant sy’n cael trafferth gyda symud, gweld a theimlo.

“Bydd yr offer chwarae newydd yma’n golygu y gall plant i gyd chwarae yn yr un parc ar yr un pryd. Does dim ots os oes gennych anabledd neu beidio, chwarae yw chwarae, ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith yr offer chwarae cynhwysol yma – a’r dyluniadau newydd ar gyfer meysydd chwarae Parc Pont-y-pŵl a’r Llyn Cychod – ar blant a’u teuluoedd."

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2022 Nôl i’r Brig