Anrhydeddu Clwb Rygbi Pont-y-pŵl â Rhyddfraint y Fwrdeistref

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 27 Mawrth 2024
Pontypool RFC honoured with Freedom of the Borough

Heddiw, daeth cynrychiolwyr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl at ei gilydd yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl i dderbyn sgrôl i gydnabod eu Rhyddfraint i’r Fwrdeistref yn swyddogol, a’i llofnodi.

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt, yr anrhydedd hon mewn cyfarfod o’r Cyngor ym mis Mehefin 2023. Y bwriad yw cydnabod cyraeddiadau Clwb Rygbi Pont-y-pŵl a’i effaith amhrisiadwy ar gymuned rygbi Torfaen. Cefnogodd y Cynghorwyr y cynnig yn unfrydol.

Mae ‘Rhyddfraint y Fwrdeistref’ yn draddodiad sy’n galluogi’r Cyngor i gydnabod yn gyhoeddus bwysigrwydd y derbynnydd i’r Fwrdeistref a’r parch tuag ato ymhlith y Cyngor a’r gymuned gyfan, ac i ddangos hynny.

Roedd Graham Price, cyn-chwaraewr Rhyngwladol i Gymru ac arwr Llewod Prydain a Chlwb Rygbi Pont-y-pŵl, a llywydd presennol y clwb, ymhlith aelodau’r clwb a fu’n llofnodi’r sgrôl ar ran Clwb Rygbi Pont-y-pŵl.

Meddai Mr Price: “Dyma anrhydedd aruthrol ac fe fydd y sgrôl nawr yn cael ei fframio a’i chyflwyno i Glwb Rygbi Pont-y-pŵl yn ei gêm gartref yn erbyn Clwb Rygbi RGC 1404 ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn, 6 Ebrill.”

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt: “Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, mae Cyngor Torfaen wedi rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref ar dri achlysur yn unig. Mae’r Clwb yn enwog ar draws y byd rygbi, a law yn llaw â’n clybiau eraill yn Nhorfaen, mae’n cyfrannu cymaint at ein cymunedau. Dylem fod yn falch o gael clwb fel Pont-y-pŵl yn Nhorfaen. Dyna pam yr oedden ni eisiau ei gydnabod fel hyn.”

Bydd modd prynu rhifyn arbennig o raglen y gêm yn ystod y gêm hefyd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hunt: “Mae chwaraeon yn chwarae rhan mor bwysig i’n trigolion, ac felly mae’r Cyngor yn gweithio ar greu man ar-lein lle gallwn ddathlu’r holl gyraeddiadau lleol ym maes chwaraeon, gan uno’n cymunedau ymhellach trwy chwaraeon.”

Diwygiwyd Diwethaf: 27/03/2024 Nôl i’r Brig