Ydych chi wedi'ch cofrestru?

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Ebrill 2024
voter-id-tile_crop

Cynhelir etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Ddydd Iau, 2 Mai.

Os nad ydych chi wedi’ch cofrestru i bleidleisio, mae gennych tan hanner nos Ddydd Mawrth 16 Ebrill i gofrestru mewn pryd ar gyfer yr etholiadau. Cofrestrwch i bleidleisio 

Bydd yn golygu hefyd eich bod wedi’ch  cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, sy’n gorfod digwydd cyn diwedd Ionawr 2025.

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Senedd y DU. 

Ddim yn siŵr a ydych chi wedi eich cofrestru? Ffoniwch ein Tîm Cofrestru Etholiadol ar 01495 762200. 

Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu fydd y tro cyntaf y bydd gofyn i etholwyr yng Nghymru gyflwyno ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio.

Os nad oes gennych chi ffurf dderbyniol o ID, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisio ar-lein. Mae cymorth ar gael yn eich llyfrgell leol. Mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar ddydd Mercher 24 Ebrill i dderbyn eich tystysgrif mewn da bryd ar gyfer yr etholiadau.

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol hefyd. 

Dysgwch fwy am ID ffotograffig neu gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisio

Gwyliwch ein fideo am bleidleisio gydag ID ffotograffig

Mae amser hefyd i wneud cais i bleidleisio drwy’r post – gwnewch gais erbyn 5pm ddydd Mercher, 17 Ebrill.  

Os ydych chi’n pleidleisio trwy’r post, mae’r rheolau o gylch eu cyflwyno i swyddfeydd y cyngor wedi newid. 

Gallwch nawr gyflwyno mwyafswm o chwe phleidlais bost, gan gynnwys eich un chi, ac mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen Dychwelyd Dogfennau Pleidleisio trwy’r Post.

Bydd unrhyw bleidleisiau post a gaiff eu postio trwy flychau llythyrau adeiladau’r cyngor, heb fod y ffurflen wedi ei chwblhau, yn cael eu gwrthod.

Dysgwch fwy am etholiadau’r  Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Mae’r newidiadau i drefniadau pleidleisio’n berthnasol i etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Senedd y DU yn unig. Ni fydd angen i etholwyr ddangos ID i bleidleisio mewn etholiadau Senedd Cymru neu lywodraeth leol yng Nghymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/04/2024 Nôl i’r Brig