Gwahodd trigolion i ffurfio cyflenwad gwasanaethau cymunedol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
Community Strategy

Mae Cyngor Torfaen yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn helpu i sicrhau bod dull newydd o weithio gyda chymunedau’n cael ei gyflenwi yn y ffordd fwyaf effeithiol a thrawiadol.

Mae Strategaeth Lles Cymunedol Torfaen, sy’n cyflwyno cynllun cychwynnol tair blynedd o hyd, wedi ei greu gyda ffocws ar gymunedau, lles ac atal, gan eu rhoi wrth galon sut gall y gwasanaethau gael eu cyflenwi.

Mae’n cyflwyno dull newydd sy’n ceisio:

  • Deall anghenion cymunedau unigol.
  • Canolbwyntio ar leisiant ac ar adnabyddiaeth gynnar o, ac atal, problemau sy’n effeithio ar lesiant.
  • Cael gwasanaethau i gydlynu’n well gyda darpariaeth sy’n bod eisoes mewn cymunedau.
  • Cefnogi a datblygu mudiadau a gwasanaethau yn y gymuned.

Mae modd cwblhau’r arolwg, a fydd yn helpu i oleuo sut y bydd y strategaeth newydd yma’n cael ei chyflenwi, yn ddienw ar wefan Cymryd Rhan Torfaen. Bydd ar agor tan ddydd Mawrth, 2 Ebrill, 2024.

Yn ystod pandemig Covid-19, tynnodd gwirfoddolwyr a mudiadau ledled Torfaen ynghyd i ddarparu gwasanaethau lleol i gefnogi aelodau bregus yn y gymuned, gan adeiladu ar y rhwydweithiau oedd eisoes yn bod.

Mae nifer o’r grwpiau yma’n bodoli o hyd, ac mae ganddyn nhw ddealltwriaeth fanwl o gryfderau ac anghenion eu cymunedau lleol, ac mae hyn yn amlygu un ffordd y gall y gymuned ymateb yn gryf i anghenion lleol.

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: “Mae’r strategaeth newydd i gymunedau’n anelu at ddeall anghenion cymunedau unigol, gweld problemau sy’n effeithio ar les ar adeg gynnar, atal problemau rhag gwaethygu neu hyd yn oed digwydd yn y lle cyntaf.

“Mae’n amlinellu hefyd sut y bydd gwasanaethau’r cyngor yn cyd-fynd yn well gyda darpariaeth sy’n bod eisoes mewn cymunedau ac mae’n rhoi cefnogaeth i ddatblygiad mudiadau a chyflenwad mewn cymunedau.

“I helpu’r cyngor i ddeall cryfderau ac anghenion y gymuned leol yn well, rwy’n annog trigolion i gwblhau’r arolwg i’n helpu i weithredu’r strategaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol.”

Dyma gyfle euraidd i drigolion roi eu barn a chyfrannu ar rymuso cymunedau ledled Torfaen. Peidiwch â cholli’r cyfle!.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/03/2024 Nôl i’r Brig