Hwb preswyl a lles yn enghraifft ardderchog

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Mai 2022

Mae hwb amlbwrpas preswyl a lles yng Nghwmbrân, sy’n cefnogi pobl i fyw yn annibynnol, wedi ei ddisgrifio fel enghraifft ardderchog o gynllun tai arloesol. 

Ymwelodd Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd, sydd hefyd â chyfrifoldeb am lywodraeth leol a thai cymdeithasol, â Thŷ Glas y Dorlan heddiw i gyhoeddi cronfa dai newydd £182m.   

Mae gan y cyfleusterau £3.7m yn Thornhill, a agorodd yn gynharach eleni, amrywiaeth o lety arhosiad byrdymor a hirdymor ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd neu ofal cymdeithasol ychwanegol i’w cynorthwyo i fyw mor annibynnol ag y bo modd.  

Bydd Cronfa newydd Tai Gyda Gofal Llywodraeth Cymru yn cynyddu faint o dai gofal ychwanegol sydd ar gael yng Nghymru gan hyd at draen dros y pedair blynedd nesaf, ynghyd a helpu pobl gydag anabledd ddysgu, anhwylder sbectrwm awtistiaeth a chyflyrau niwrolegol eraill i fyw yn annibynnol, lle bo modd, yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos at eu cartref ag y bo modd hefyd yn flaenoriaeth allweddol, ynghyd â buddsoddi mewn tai a llety gofal canolraddol ar gyfer y sawl nad ydynt eto yn barod am annibyniaeth lawn.

Meddai Ms James: “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yng Nghymru sydd weithiau’n ei chael yn anodd cadw cartref eu hunain, boed oherwydd salwch neu galedi ariannol, sy’n gallu golygu bod perygl iddyn nhw fynd yn ddigartref.

“Yr un mor bwysig, mae annibyniaeth, fel yr hyn a ddarperir yn Nhŷ Glas y Dorlan yn lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae’r datblygiad hwn a’r bobl sy’n byw yma yn enghraifft ardderchog o pam y mae buddsoddi mewn prosiectau tai arloesol sy’n diwallu anghenion gofal mor bwysig.”

Mae Tŷ Glas y Dorlan yn brosiect cydweithredol rhwng Cyngor Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chymdeithas Dai Bron Afon, ac mae wedi ei rhannol ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Meddai Sarah Paxton, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chomisiynu Cyngor Torfaen: “Dim ond am gyfnod byr y mae Tŷ Glas y Dorlan wedi bod ar agor ac rydym eisoes yn gweld canlyniadau gwych.

“Mae’n enghraifft o’r posibiliadau o gael timau gofal cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth gydag iechyd, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru i alluogi i bobl gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.”

Yn ystod yr ymweliad, dysgodd Ms James hefyd am seilwaith cyfeillgar i’r amgylchedd yr adeilad, gan gynnwys paneli solar ac inswleiddiad sypynnau gwellt, sy’n helpu i leihau allyriadau carbon, a tho gwyrdd i helpu dal a storio carbon.

Meddai Alan Brunt, Prif Weithredwr Bron Afon: "Mae Tŷ Glas y Dorlan yn adeilad sy’n ymgorffori ein hymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae ganddo sgôr effeithiolrwydd ynni A ac yn cynnwys to gwyrdd i helpu gyda bioamrywiaeth, paneli solar a system ailgylchu dŵr llwyd i fflysio toiledau a dyfrio planhigion.

"Dyma, mewn gwirionedd, yw’r dyluniad cyntaf o’i fath yn Nhorfaen, gan ddarparu cartref a gwasanaethau sy’n cynnig gofal a chynhwysiant cymdeithasol yn ein cymuned.”

Ymwelodd y gweinidog, sy’n arwain ar dargedau carbon sero net Llywodraeth Cymru, ag ardal werdd agored, yn y Dafarn Newydd, sydd yn un o fwy na 120 o safleoedd ledled y fwrdeistref lle mae torri gwair arferol wedi ei leihau a lle mae blodau gwyllt yn cael eu hannog.

Gweithiodd Cyngor Torfaen a Phartneriaeth Natur Leol Torfaen gyda thrigolion i adnabod y mannau gorau i flodau gwyllt dyfu ar y safle, oddi ar Golf Road, fel rhan o’r prosiect, sy’n cefnogi amcanion Cynllun Gwytnwch Bioamrywiaeth ac Ecolegol y cyngor, Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur, y Cynllun Llesiant a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

I gael rhagor o wybodaeth am Dŷ Glas y Dorlan gallwch fynd i’n gwefan, neu cliciwch yma i gael gwybod rhagor am rwydweithiau natur yn Nhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/09/2023 Nôl i’r Brig