Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023
Mae cynlluniau i agor canolfan newydd i gefnogi pobl ddigartref yn Nhorfaen wedi cymryd cam ymlaen.
Mae elusen The Wallich wedi cael contract i ddarparu cymorth 24-awr-y-dydd i bobl sy'n byw mewn fflatiau yn adeilad Pearl House yng nghanol tref Pont-y-pŵl, mewn adeilad wedi’i drawsnewid at y diben.
Yn gynharach y mis hwn, cymeradwyodd aelodau'r Cabinet gynllun i wario £449,514 o'r £4.6 miliwn y mae Cyngor Torfaen wedi ei gael fel grant cymorth tai gan Lywodraeth Cymru, ar hwb asesu a llety newydd.
Bydd Cyngor Torfaen a Chartrefi Melin, sy'n trawsnewid yr eiddo Gradd II, yn cwrdd â'r elusen dros yr ychydig wythnosau nesaf er mwyn cytuno ar amodau a thelerau'r contract a'r gofynion.
Meddai'r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Dyma ddatblygiad pwysig yn ein hymdrech i ddarparu cymorth mwy cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer unigolion digartref yn Nhorfaen.
"Trwy'r dull amlasiantaeth hwn, a thrwy sicrhau bod cymorth wrth law 24-awr-y-dydd, gobeithiwn y byddwn yn gallu cefnogi pobl yn ôl ar eu traed yn gyflymach, gan eu galluogi i symud i mewn i lety hirdymor, cynaliadwy ar ben arall eu taith.
"Gobeithiwn y bydd y dull hwn, sydd wedi ei deilwra'n fwy, yn ein helpu i atal mwy o unigolion rhag cael eu dal ym maglau digartrefedd, ac yn arwain at ganlyniadau gwell o ran llesiant yr unigolion yn gyffredinol.
"Mae'r Wallich eisoes yn rhedeg gwasanaethau o swyddfeydd yn Pearl House i gefnogi pobl sy’n profi trafferthion yn ymwneud â thai i gael mynediad at gymorth a chefnogaeth, gan gynnwys pobl sydd efallai'n cysgu ar y stryd, ac felly fe fydd parhad yn y cymorth y mae pobl yn ei gael ar hyn o bryd.
"Rwy'n gyffrous iawn am y prosiect hwn, ac yn obeithiol iawn am ei botensial i gynnig cymorth gwell i'r rheiny y mae angen ei wasanaethau arnynt.”
Disgwylir y bydd y gwaith o drawsnewid Pearl House yn 15 o fflatiau ag un ystafell wely yn cael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2024, ac y bydd gwasanaeth yr hwb hefyd ar agor o'r dyddiad hwn.
Disgwylir y bydd tenantiaid yn aros yn y llety am hyd at chwe mis tra'u bod yn chwilio am lety amgen.
Gall unrhyw un sydd eisiau cyngor am eu hanghenion tai fynd i wefan Cartrefi Torfaen.