Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023
O heddiw, mae’n rhaid bod gan eiddo rhent preifat larymau mwg â gwifrau sy’n cydgysylltu â’r prif gyflenwad ar bob llawr ac adroddiad dilys yn nodi cyflwr trydanol.
Rhaid bod synhwyrydd carbon monocsid ym mhob ystafell sydd ag offer nwy neu danwydd solet.
Mae landlordiaid wedi cael 12 mis i sicrhau bod eu heiddo rhent preifat yn bodloni'r rheoliadau newydd yn rhan o safonau ffitrwydd i fod yn gartref, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Cynghorir landlordiaid hefyd i brofi larymau mwg yn rheolaidd – ee yn ystod ymweliadau arolygu eiddo neu os ydynt yn gwneud atgyweiriadau eraill.
Mae safonau Ffitrwydd i Fod yn Gartref hefyd yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â lleithder a thwf llwydni, gormod o wres neu oerni a pheryglon trydanol. Dysgwch mwy am y ddeddfwriaeth.
Os nad yw eiddo rhent preifat yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth, cynghorir tenantiaid i gysylltu â'u landlord neu asiantaeth a hynny’n ysgrifenedig.
Os na fydd y mater yn cael ei ddatrys, gellir cysylltu â Rhentu Doeth Cymru i wneud cwyn.