Uwchgynhadledd Tai

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Hydref 2022
Housing summit Oct 2022

Wythnos yma, cynhaliwyd uwchgynhadledd partneriaid tai gyda chyfraniadau gan Gyngor Torfaen, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Bron Afon a Chartrefi Melin, ynghyd ag iechyd, datblygwyr tai a chynllunwyr lleol.

Ystyriodd yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, sut y gallai partneriaid ar y cyd:

  • Fynd ati i ddefnyddio cartrefi sydd eisoes yn bodoli, yn well
  • Gwella cartrefi yn nhermau ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd
  • Cyflwyno tir a chartrefi newydd
  • Bywiogi’r farchnad dai leol
  • Mynd i’r afael â fforddiadwyedd a llesiant
  • Ymestyn cyllidebau a chynyddu buddsoddi
  • Darparu cartrefi sy’n helpu pobl i gadw’n annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae'r her dai i'w gweld heddiw, ond mae angen gweledigaeth ar y cyd arnom hefyd a fydd yn mynd i'r afael â chyflenwad a fforddiadwyedd i'r genhedlaeth nesaf.

"Cartref gweddus yw'r sylfaen y mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arno. Ni all plant ddysgu heb gartref sefydlog, cynnes. Mae pobl yn mynd yn sâl mewn cartrefi llaith o ansawdd gwael. Mae yna ddioddefaint pan fydd cyfran annaearol o incwm pobl yn cael ei gymryd gan gostau tai. Mae effaith toriadau tai i'w gweld drwy ein holl wasanaethau.

“Mae marchnad dai gor-boeth ar hyn o bryd, gyda phrisiau tai, cyfraddau morgeisi a rhent yn saethu i fyny, yn creu bwlch o ran fforddiadwyedd. Mae'r galw am eiddo rhent cymdeithasol yn fwy o lawer na'r cyflenwad. Felly rhaid i bob partner ddod o hyd i atebion arloesol i ddarparu opsiynau tai sy'n diwallu anghenion ein trigolion yn y dyfodol.”

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: “Ym Melin rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cydweithio â'n partneriaid yn yr awdurdod lleol. Mae gennym gyfnod mwy heriol o'n blaenau, ond rydym yn gwybod trwy gydweithio, y byddwn mewn sefyllfa well i gefnogi trigolion a chymunedau. Mae Uwchgynhadledd Tai Torfaen yn enghraifft wych o sut rydym yn cyflawni mwy, drwy weithio mewn partneriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gallwn symud ymlaen gyda'r syniadau sy'n dod i’r amlwg heddiw, a chynllunio ar gyfer dyfodol tai yn Nhorfaen."

Meddai Alan Brunt, Prif Weithredwr Bron Afon: “Mae pa mor dda y mae cymdeithas yn gweithio yn dibynnu'n fawr ar ansawdd a chyflenwad cartrefi newydd. Gwnaed penderfyniad heddiw i fynd i'r afael â phroblemau y mae ein tenantiaid a'n trigolion yn eu hwynebu ac i sicrhau ein bod yn mynd ati ar y cyd i ddarparu cefnogaeth i bobl sy'n byw yn ein cartrefi trwy'r argyfwng costau byw presennol. Does dim digon o gartrefi, felly mae'n rhaid i ni ddod â mwy o gartrefi cynaliadwy o safon uchel i'r farchnad.”

Ar ddiwedd yr uwchgynhadledd, ymrwymodd partneriaid allweddol i ymrwymiadau lleol a fydd yn creu fforwm tai strategol newydd, strategaeth dai strategol newydd a chynllun gweithredu ar gyfer Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/10/2022 Nôl i’r Brig