Wedi ei bostio ar Dydd Iau 28 Gorffennaf 2022
Yng nghyfarfod y cyngor yr wythnos yma, cyflwynwyd adroddiad mewn ymateb i ddeiseb am gludo gwyddau ymaith o lwybr halio Dwy Loc yng Nghwmbrân.
Roedd y ddeiseb, a gyflwynwyd ym Mehefin, yn gofyn am dystiolaeth i gadarnhau bod y gwyddau wedi eu rhoi mewn amgylchedd priodol a bod ganddyn nhw fynediad at adar gwyllt eraill a chysylltiad â phobl.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r camau a gymerwyd i ailgartrefu’r gwyddau mewn darn o dir preifat yn Nhorfaen gydag amgylchedd addas i fodloni eu hanghenion, gan gynnwys llyn mawr.
Mae swyddogion y cyngor wedi ymweld â’r tir nifer o weithiau i sicrhau diogelwch a lles y gwyddau ac maen nhw’n fodlon eu bod yn cael gofal da.
Cymeradwyodd cynghorwyr gynnwys yr adroddiad ac roedden nhw’n fodlon bod swyddogion wedi ymateb i’r mater mewn ffordd deimladwy a bod y gwyddau wedi eu symud at fan diogel.
Diolchodd yr aelodau i’r swyddogion am y ffordd y bu iddyn nhw drin y sefyllfa.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.