Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022
Mae dau o weithwyr y cyngor wedi cael eu canmol ar ôl achub menyw oedd wedi cwympo rhwng dau gar yng nghanol tref Pont-y-pŵl.
Roedd Darryl Carter a David Malson, sy’n gweithio i dîm Strydlun Cyngor Torfaen, yn gyrru ar hyd Osborne Road, ar ddydd Llun, 12 Rhagfyr, pan welon nhw’r fenyw yn gorwedd â’i hwyneb tuag i lawr.
Stopion nhw’n syth a, gyda help dyn arall, gwnaethon nhw hi’n gyfforddus tra roedden nhw’n galw ambiwlans.
Siaradodd Darryl â’r gwasanaeth ambiwlans a ddywedodd nad oedden nhw, oherwydd nad oedd ei hanafiadau’n berygl bywyd, yn gallu dweud pryd byddai ambiwlans yn cyrraedd.
Felly, ar ôl siarad â’r teleffonydd a’r fenyw, penderfynodd Darryl a David ei chario i’w fan a’i gyrru adref i aros am y parafeddygon yno.
Dywedodd Darryl, 39: "Roedden ni’n gyrru heibio hen swyddfa Free Press tuag at ganol y dref ac fe welais i ddwy goes rhwng dau gar. Stopion ni’r fan a gwelon ni’r fenyw yn gorwedd gyda’i hwyneb i lawr gyda chlwyf uwchben ei llygad.
"Ar ôl i ni ei throi'r ffordd iawn a’i chael i eistedd, eisteddais y tu ôl iddi i’w chynnal. Daeth dyn arall â chlustog a blancedi a ffonion ni 999.
"Esboniodd y teleffonydd had oedden nhw’n gallu dweud pryd byddai ambiwlans yn cyrraedd, felly, ar ôl siarad â nhw a’r fenyw, fe benderfynon ni ei chario at y fan a mynd â hi adref fel y gallai hi aros ble roedd yn gynnes.
"Pan gyrhaeddon ni, fe wnaethon ni’n siŵr ei bod hi’n gyfforddus ac yn gynnes a galwon ni’r gwasanaeth ambiwlans eto i roi gwybod iddyn nhw ble roedd hi. Gadewais fy rhif gyda hi ac fe ffoniodd hi rhai diwrnodau wedyn i ddweud bod y parafeddygon wedi bod a bod angen tri phwyth am y clwyf."
Ychwanegodd David, 27: "Roedd hi ond wedi bod yno rhyw 10 munud ond roedd hi eisoes yn crynu â’r oerfel. Roedden ni’n falch ein bod wedi gallu helpu."
Dywedodd Cydlynydd Gweithrediadau Strydlun, Sian Watkins: "Rydym yn falch iawn o’r ddau aelod o’n staff.
“Wnaethon nhw ddim meddwl ddwywaith am fynd i helpu’r ddynes a gwneud yn siŵr ei bod hi a’i gŵr yn cyrraedd gartref yn ddiogel. Rydym ni’n falch o glywed ei bod hi’n gwella."