Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Ebrill 2022
Bydd Cyngor Torfaen yn dechrau danfon Taliad Costau Byw Llywodraeth Cymru i aelwydydd ym Mand A, B, C, D Treth y Cyngor yn hwyrach y mis yma.
I fod yn gymwys am y taliad yma, bydd rhaid i drigolion fodloni’r meini prawf canlynol:
- Roeddech yn gyfrifol am dreth y cyngor ar eiddo ar 25 Chwefror; a
- Nid oeddech yn derbyn eithriad ar gyfer yr eiddo ar 15 Chwefror; a
- Roeddech yn byw yn yr eiddo hwnnw fel eich prif gartref ar 15 Chwefror; a
- Roeddech yn gyfrifol am dalu’r biliau cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau a biliau rheolaidd tebyg ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror.
Bydd aelwydydd sy’n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, mewn unrhyw fand Treth y Cyngor, a’r rheiny ym Mand E Treth y Cyngor sy’n derbyn Gostyngiad Band Anabl, hefyd yn gymwys am y taliad.
Bydd trigolion a oedd yn talu Treth y Cyngor trwy ddebyd uniongyrchol ar 15 Chwefror 2022 yn derbyn y taliad o £150 yn awtomatig, o ddiwedd Ebrill ymlaen.
Os nad oes gan y cyngor fanylion banc ar gyfer trigolion cymwys, byddwn yn cysylltu trwy e-bost neu lythyr i ofyn iddyn nhw roi’r wybodaeth yma trwy gais ar-lein.
Bydd y cynllun yn mynd tan fis Medi 2022, felly gall taliadau gael eu gwneud ar unrhyw adeg yn ystod yr amser hwnnw.
Gallwch weld eich band Treth y Cyngor trwy’r ddolen yma: https://www.gov.uk/council-tax-bands
Bydd cynllun yn ôl disgresiwn yn cael ei sefydlu i helpu teuluoedd eraill sy’n cael trafferth ond sydd ddim yn bodloni’r meini prawf canlynol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-pecyn-cymorth-costau-byw