Technoleg Gynorthwyol

Beth yw Technoleg Gynorthwyol?

Term yw Technoleg Gynorthwyol sy’n cynnwys amrywiaeth o declynnau sy’n helpu unigolion i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

  • Mae Ffôn Llinell Bywyd Lifeline yn cynnwys uned sylfaen a chrogdlws y mae modd ei bwyso â llaw er mwyn galw am help. Does dim angen asesiad.
  • Mae angen asesiad ar gyfer Telecare sy’n cynnwys unrhyw beth arall yr ydym yn ei gynnig, er enghraifft; Synwyryddion Mwg, Synwyryddion Cwympiadau, Synwyryddion Drysau, Synwyryddion Gwely, Just Checking a larymau Epilepsi.

Ffeithiau

  • Mae gan tua 1750 o bobl Lifeline neu Telecare yn Nhorfaen.
  • Careium (Doro Care U.K. gynt) sy’n monitro ein gwasanaeth ymateb yn Nhorfaen. Ym mis Ionawr 2022, cafodd 97.64% o’r galwadau a wnaed i’r gwasanaeth ymateb eu hateb o fewn 60 eiliad. Cymerwyd 12 eiliad ar gyfartaledd i ateb.

Sut mae atgyfeirio?

Atgyfeiriadau newydd

Os hoffech wneud atgyfeiriad newydd ar gyfer larwm lifeline neu os hoffech gael asesiad ar gyfer teleofal, cwblhewch y ffurflen Gwneud Cais am Lifeline / Technoleg Gynorthwyol neu rhowch alwad i ni ar 01495 762200.

Cwsmeriaid presennol

Os oes gennych chi broblem gyda’ch cyfarpar neu os yw eich anghenion wedi newid, ffoniwch 01495 766214.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf i’n gwneud atgyfeiriad neu os fydd angen asesiad newydd arnaf i?

  • Os hoffech wneud atgyfeiriad newydd ar gyfer larwm lifeline neu os hoffech gael asesiad ar gyfer teleofal gallwch wneud hyn ar-lein drwy lenwi’r ffurflen Gwneud Cais am Lifeline / Technoleg Gynorthwyol, neu siarad ag ymgynghorydd gofal cwsmeriaid yng Nghyngor Torfaen a fydd yn llenwi ffurflen atgyfeirio fer gyda chi dros y ffôn.Unwaith bydd hon wedi ei chwblhau bydd yn cael ei danfon at y Tîm Technoleg Gynorthwyol a fydd yn eich ffonio chi neu berthynas i drefnu ymweliad i drafod eich anghenion. Fel arall, os oes gennych chi weithiwr cymdeithasol gallan nhw wneud atgyfeiriad ar eich rhan. Yn ystod yr ymweliad mae’r teclyn fel arfer yn cael ei osod yn eich cartref, ei brofi a’i arddangos. Dylech hefyd ddarllen y Telerau ac Amodau a chwblhau’r ffurflen gostyngiad TAW (os yw hynny’n berthnasol), bydd copi o’r rhain yn cael eu gadael gyda chi.
  • Os ydych chi wedi ffonio oherwydd bod eich anghenion wedi newid, bydd un o’r Tîm Technoleg Gynorthwyol yn dod allan i asesu eich anghenion a thrafod pa gyfarpar all fod o gymorth i chi, efallai bydd gan y person sy’n ymweld â chi'r cyfarpar a byddan nhw’n medru ei osod ar y diwrnod, fel arall byddan nhw’n trefnu i ymweld â chi ar ddiwrnod addas arall.
  • Efallai bydd angen mwy o asesiadau cyn bod modd gosod cyfarpar, er enghraifft efallai bydd angen Asesiad Gallu a Phenderfyniad Budd Gorau cyn gosod synwyryddion drws

Beth sydd angen arnaf i gael gosod llinell Lifeline?

  • Bydd angen llinell ffôn yn eich cartref a soced ffôn dim mwy na 6 troedfedd i ffwrdd o soced trydan 13 amp. 
  • Er ein bod bob amser yn argymell defnyddio uned Lifeline gyda llinell ffôn (oherwydd dibynadwyedd); mae'r Tîm Technoleg Gynorthwyol yn cadw nifer cyfyngedig o unedau Lifeline sy'n defnyddio cerdyn SIM symudol.
  • Sylwch efallai na fydd yr unedau “symudol” hyn yn gweithio ym mhob rhan o Dorfaen oherwydd bod signalau ffôn symudol yn wan mewn mannau

Cost

  • Am y flwyddyn 1af, tâl gosod o £65 a dâl blynyddol o £125.
  • Am y blynyddoedd canlynol mae yna dâl blynyddol o £125 (Tua £2.40 yr wythnos )
  • Gallwn gyflenwi a gosod coffr allweddi pan fyddwn yn gosod y llinell Lifeline dim ond os nad oes gennych unrhyw un i ymateb neu os nad yw’r rheiny’n byw’n lleol, rydym yn cadw’r rhif hwn mewn cronfa ddata diogel ac ond yn rhannu’r rhif yma gyda’r gwasanaethau brys a’r ganolfan monitro galwadau, nid yw byth yn cael ei rannu gyda theulu na ffrindiau.  Cost gosod coffr allweddi yw £28.22
  • Fel arall, os hoffech gael cwpwrdd ag allwedd breifat a fydd yn eich galluogi i rannu rhif allwedd eich cwpwrdd gyda theulu a ffrindiau gallwch brynu'r rhain mewn llawer o siopau, ar-lein neu ewch trwy Gofal a Thrwsio sy'n cyflenwi ac yn gosod y cwpwrdd ag allwedd. Gallwch gysylltu â Gofal a Thrwsio ar 01495 745948.

Taliadau

  • Gofynnir am daliadau mewn bil tua 4-6 wythnos fel arfer ar ôl gosod eich cyfarpar.
  • Gellir talu un swm neu trwy randaliadau dros bedwar mis.
  • Gellir gwneud taliadau trwy ddebyd uniongyrchol, ar-lein, trwy’r post, dros y ffôn neu yn un o’n swyddfeydd isod:
    • Canolfan Gofal Cwsmeriaid Pont-y-pŵl - Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
    • Canolfan Gofal Cwsmeriaid Cwmbrân - Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Gwent Square, Cwmbrân, NP44   1XQ
    • Canolfan Gofal Cwsmeriaid Blaenafon - Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon, Church Road, Blaenafon. NP4  9AS
  • Os ydych chi’n cael trafferth talu neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid ar: 01495 766002

Beth sy’n digwydd pan fydda’ i’n pwyso fy nghrogdlws?

  • Yn gyffredinol bydd angen i chi wisgo trosglwyddydd radio personol bach o gwmpas eich gwddf, neu ar eich garddwrn neu ar eich dillad.
  • Mae hyn yn eich galluogi i alw am help unrhyw le yn y cartref neu’r ardd, os oes angen, trwy bwyso’r botwm coch. Gallwch hefyd bwyso’r botwm coch ar eich uned Lifeline i alw am help os ydych chi’n agos ati pan fyddwch yn cwympo neu’n mynd yn dost.
  • Weithiau gall synwyryddion fel synhwyrydd cwympiadau a larwm mwg ganu larwm hefyd.
  • Bydd y teleffonydd yn y ganolfan reoli yn ateb a bydd ganddyn nhw eich manylion i gyd o’u blaen, gan gynnwys pwy ydych chi, ble’r ydych chi’n byw a’r ffrindiau, perthnasau neu gymdogion yr ydych wedi dweud y byddech yn hoffi eu bod yn cael eu hysbysu mewn argyfwng.
  • Os ydych chi wedi cwympo neu’n teimlo’n dost ac angen ambiwlans, bydd y ganolfan monitro’n ffonio 999 ar eich rhan ac yna’n ceisio ffonio’r bobl yr hoffech gysylltu â nhw i ddweud wrthyn nhw am eich sefyllfa.
  • Os nad yw eich ymatebwyr yn ateb, bydd neges yn cael ei gadael.
  • Os bwyswch chi’ch crogdlws eto ar ôl 30 munud bydd Careium yn ceisio cysylltu â’ch ymatebwyr eto ond ni fyddan nhw’n gadael negeseuon pellach.
  • Nid oes gennym wasanaeth ymateb, bydd Careium ond yn ceisio cysylltu â’ch cysylltiadau a’r gwasanaeth brys perthnasol os oes angen.
  • Gall yr amser i aros am Ambiwlans fod yn hir. Gall Careium ond cysylltu eto â’r Ambiwlans os oes dirywiad amlwg yn eich iechyd. Felly os ydych yn teimlo fod eich iechyd yn dirywio pwyswch ei crogdlws eto er mwyn dweud wrth Careium. Y gobaith yw y bydd un o'ch ymatebwyr yn gallu eich cyrraedd, cadw cwmni â chi a chysylltu â’r gwasanaethau brys yn uniongyrchol os fydd eich cyflwr yn dirywio.

Pa gyfrifoldeb sydd gan fy ymatebwyr?

  • Bydd Careium bob amser yn ffonio eich ymatebwyr yn y drefn sy’n well gennych (y drefn gwnaethoch nodi pan gafodd y cyfarpar ei osod)
  • Rhaid i ymatebwyr gael gwybod eu bod yn ymatebwyr i chi
  • Rhaid i ymatebwyr gael gwybod efallai y byddan nhw’n derbyn galwad ffôn ar unrhyw adeg o’r dydd a’r nos, felly mae disgwyl y byddan nhw ar gael ar y ffôn ar bob adeg.
  • Rhaid i ymatebwyr gael mynediad at allwedd neu wybod rhif y coffr allweddi er mwyn mynd i mewn i’ch cartref
  • Mae angen i ymatebwyr hysbysu Careium os yw eu rhif wedi newid
  • Fel arfer mae nifer yr ymatebwyr yn gyfyngedig i dri ac mae’n well bod yna rhif ffôn a rhif symudol ar gyfer bob un.

Beth os nad oes gen i unrhyw ymatebwyr neu maen nhw ar wyliau?

  • Os nad oes gennych chi unrhyw ymatebwyr neu os nad ydyn nhw ar gael, cysylltir â’r gwasanaeth brys mwyaf priodol.

Beth sy’n digwydd i’r data sy’n cael ei gasglu yn ystod yr asesiad?

  • Bydd gwybodaeth sy’n cael ei chofnodi yn ystod yr asesiad/gosodiad yn cael ei rhannu gyda Careium a’i gofnodi ar WCCIS (System Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol).
  • Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda Careium gan eu bod nhw’n ymateb pan fydd eich llinell Lifeline yn cael ei ysgogi. Os oes angen i’r teleffonydd ffonio’r gwasanaethau brys yna mae angen eich manylion a gwybodaeth berthnasol arnyn nhw. Efallai bydd Careium yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r gwasanaethau brys.
  • Bydd Careium yn storio’ch gwybodaeth yn eu cronfa data y mae angen i deleffonyddion mewngofnodi iddi i gael mynediad.

Beth ddylwn i wneud os oes problem gyda Lifeline?

  • Os oes problem gyda’r llinell Lifeline ffoniwch y Tîm Technoleg Gynorthwyol ar 01495 766214

Sut mae canslo’r gwasanaeth?

  • Os nad ydych chi angen y cyfarpar mwyach ac am ganslo’r gwasanaeth, ffoniwch 01495 766214.  Byddwn yn dweud wrth Careium a Chyllid nad ydych bellach angen y gwasanaeth a bydd eich cyfrif yn cael ei gau. Nid ydym yn ad-dalu costau gosod na’r tâl blynyddol.
  • Byddwn yn trefnu i gwmni o’r enw Mediquip sy’n rheoli ein cyfarpar i’w gasglu neu gall un o’n haelodau staff ei gasglu.
  • Fel arall, gallwch ddod â’r cyfarpar i’r canolfannau gofal cwsmeriaid ym Mhont-y-pŵl, Cwmbrân neu Flaenafon gyda’r enw a’r cyfeiriad arno.

Beth os ydw i am gwyno am y gwasanaeth?

OS hoffech chi drafod problem, hoffem weld a oes modd ei ddatrys yn gyntaf trwy siarad â’r Tîm Technoleg Gynorthwyol ar 01495 766214. Os nad yw hyn yn rhoi ateb boddhaol i chi yna gallwch wneud cwyn ffurfiol ar 01495 742164 neu corporatecomplaints@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 01/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheolaeth Ganolog

Ffôn: 01495 766214

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig