Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Mae Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig yn ffordd gyfreithiol o ddarparu sefydlogrwydd tymor hir i blentyn na all ddychwelyd i fyw gyda'i rieni biolegol ac nad yw mabwysiadu yn briodol ar ei gyfer.

Mae'n rhoi cyfrifoldebau tymor hir clir i'r sawl sy'n gofalu am y plentyn am fagwraeth y plentyn heb dorri'r cysylltiad cyfreithiol rhwng y plentyn a'i riant biolegol.

Gwneir Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig trwy gais ffurfiol i lys. Gallwch wneud cais i ddod yn Warcheidwad Arbennig os ydych chi dros 18 oed a'ch bod chi:

  • Yn warcheidwad i’r plentyn
  • Gofalwr maeth Awdurdod Lleol y mae'r plentyn wedi byw gydag ef am flwyddyn yn union cyn i'r cais gael ei wneud
  • Perthynas i'r plentyn y mae'r plentyn wedi byw gydag ef am flwyddyn cyn i'r cais gael ei wneud
  • Unrhyw un sydd â Gorchymyn Preswyl mewn perthynas â'r plentyn
  • Unrhyw un sydd â chaniatâd gan
    • Yr Awdurdod Lleol NEU
    • Pawb sydd â chyfrifoldeb fel rhieni am y plentyn NEU
    • Y Llys

Wrth benderfynu a ddylid gwneud Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, lles y plentyn fydd prif ystyriaeth y llys. Ni fydd Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig yn cael ei wneud os nad yw'r llys yn teimlo ei fod er budd gorau'r plentyn.

Ar ôl i Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig gael ei wneud, y Gwarcheidwad Arbennig fel rheol fydd y gofalwr parhaol i'r plentyn tan fydd y plentyn hwnnw'n cyrraedd 18 oed. Mae Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r Gwarcheidwad Arbennig dros y plentyn.

Gellir lawr lwytho copi o Daflen Ffeithiau Gwarcheidiaeth Arbennig yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/07/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Lleoliadau Teuluoedd

Ffôn: 01495 766669
Ebost: FamilyPlacementTeam@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig