Mabwysiadu

Mae yna nifer o resymau pam na all rhai plant fyw gyda'u rhieni biolegol. Mae mabwysiadu yn galluogi'r plant hyn i fod yn rhan o deulu a fydd yn eu darparu â chartref sefydlog, diogel a chariadus, a magwraeth a fydd yn eu helpu i ffynnu.

Mabwysiadu yw'r broses sy'n golygu y daw plentyn yn aelod o deulu/theulu yn ôl y gyfraith a chael un neu ddau riant newydd.

Yn annhebyg i faethu, pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, bydd y plentyn hwnnw yn byw gyda'i rhieni newydd yn barhaol. Mae Gorchymyn Llys yn trosglwyddo hawliau'r rhieni biolegol i'r rhieni sy'n mabwysiadu. Rhydd hyn yr un cyfrifoldebau a hawliau â phob rhiant arall - a'r un boddhad i'r rhieni sy'n mabwysiadu.

Ar ôl i blentyn gael ei fabwysiadu, nid oes gan y rhieni biolegol unrhyw hawliau na chyfrifoldebau fel rhiant drosto ef/hi.

Daw'r plentyn yn aelod llawn o'r teulu sy'n mabwysiadu. Byddant yn cymryd cyfenw'r rhieni sy'n mabwysiadu ac yn cael yr un hawliau a breintiau a phetai nhw wedi cael eu geni iddynt - yn cynnwys yr hawl i etifeddu.

Nid yw mabwysiadu yn benderfyniad hawdd a bydd angen arnoch gyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth i'ch helpu i benderfynu ai mabwysiadu yw'r penderfyniad iawn i chi a'ch teulu.

Torfaen yw un o'r tri chyngor sy'n ffurfio Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru (gyda chynghorau Sir Fynwy a Blaenau Gwent).

Mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i:

  • unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu
  • rhieni sydd eisoes wedi mabwysiadu
  • plant sydd wedi cael eu mabwysiadu (yn cynnwys y rheini sydd yn oedolion erbyn hyn)
  • teuluoedd a pherthnasau biolegol.

Mae'r tîm cyfunol wedi ei leoli yng Ystad Parc Mamhilad , Pont-ypŵl .

Gwahanol fathau o blant

Bydd angen i nifer fach o blant sy'n 'derbyn gofal' gan gyngor Torfaen gael eu mabwysiadu ymhen hir a hwyr.

Babanod a phlant bach yw rhai o'r plant hyn ond nid dyma'r achos o hyd. Weithiau, gall y plant sydd yn chwilio am deuluoedd newydd fod o oed ysgol. Efallai y bydd gan eraill anawsterau dysgu, anghenion arbennig neu anableddau. Gall rhai plant fod o deuluoedd lleiafrifoedd ethnig.

Weithiau mae'r plant yn rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd a byddai'n well gennym gadw'r brawd/brodyr a chwaer/chwiorydd gyda'i gilydd. Os ydych yn ystyried mabwysiadu efallai y byddwch am gynnig cartref sefydlog a hapus i ddau o blant neu fwy.

Bydd mwyafrif y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu wedi cael gorffennol anodd - fe allech roi dyfodol rhagorol iddynt.

Gwahanol fathau o bobl

Gallwch fabwysiadu plentyn yn gyfreithiol os ydych yn 21 oed, ond nid cyn hynny. Rhaid i chi hefyd fod yn byw yn gyfreithlon yn y DU am o leiaf blwyddyn gron cyn i chi fedru mabwysiadu plentyn ym Mhrydain.

Ni allwn ystyried ceisiadau gan bobl sydd wedi eu cael yn euog o droseddu yn erbyn plant.

Heblaw am yr eithriadau hynny, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Fe allech fod yn:

  • sengl, briod, wedi ysgaru neu'n cyd-fyw (am o leiaf tair blynedd)
  • heterorywiol neu'r rhai mewn perthnasoedd o'r un rhyw
  • yn berchen ar dŷ neu'n rhentu
  • yn gweithio neu'n ddi-waith
  • o unrhyw darddiad ethnig neu gefndir diwylliannol

Nid oes terfyn oedran cyhyd ag y bod eich iechyd yn dda, a roddir yr un ystyriaeth i bobl anabl â'r rheiny sydd heb anableddau.

Noder os gwelwch yn dda, yn dilyn ymchwil feddygol i effaith ysmygu goddefol ar blant, efallai y bydd achos yn codi wrth ddod o hyd i blant ar gyfer mabwysiadwyr cymeradwy sy'n ysmygu. Ni fydd plant dan 5 oed yn cael eu paru â mabwysiadwyr sy’n ysmygu.

Y Broses Mabwysiadu

Mae’r broses mabwysiadu yn cymryd tua 6 mis, o’r ymholiad cychwynnol i’r cam cymeradwyo gan y sawl sy’n gwneud penderfyniad yn yr asiantaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • mynychu sesiynau grŵp gyda darpar fabwysiadwyr eraill lle mae pawb yn trafod yr holl faterion ac yn dysgu o brofiadau'r sawl sydd eisoes yn mabwysiadu
  • ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennym a chydweithio gyda ni yn ystod unrhyw wiriadau mae eu hangen i ni wneud yn ôl y gyfraith, megis gwiriadau meddygol, gwiriadau gan yr heddlu a chwblhau ffurflen adroddiad Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF)
  • cael cyfarfodydd rheolaidd yn eich cartref gyda gweithiwr mabwysiadu a fydd yn gweithio'n agos iawn gyda chi trwy gydol y broses. Mae ein pecyn gwybodaeth yn amlinellu'r meysydd y byddwn yn eu cynnwys yn ystod y broses asesu
  • cael eich cymeradwyo gan banel fel darpar fabwysiadwr
  • trafod, gyda gweithiwr, y plentyn/plant yr ydych am eu mabwysiadu a gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth, o ran p'un ai a fyddant yn iawn i chi
  • cyfarfod y plant a dod i'w hadnabod (gelwir y rhain yn "gyflwyniadau")
  • os yw'r cyflwyniadau yn mynd yn dda, dod â'r plant i mewn i'ch cartref
  • dilyn y broses gyfreithiol a'u mabwysiadu'n swyddogol
  • derbyn cefnogaeth lawn gan eich gweithiwr cymdeithasol trwy gydol y broses

Mae ein pecyn gwybodaeth yn amlinellu'r cais mabwysiadu ac asesu mewn mwy o fanylder.

Os ydych yn ystyried mabwysiadu plentyn, neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru

Adain y Gogledd, 2il Lawr, Bloc B, Tŷ Mamhilad, Ystad Parc Mamhilad, Pont-ypŵl, Torfaen, NP4 0HZ
Ffôn: 01495 355766
Ewch i: www.southeastwalesadoption.co.uk

Nôl i’r Brig