Maethu Preifat

Mae tîm maethu Torfaen wrthi ar hyn o bryd yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â maethu preifat. Daeth y ddeddfwriaeth Maethu Preifat i rym i ddarparu cefnogaeth i’r rheini sydd ynghlwm wrth drefniadau Maethu Preifat.

Fe allai Maethu’n Breifat weithio i chi os:

  • ydych yn gofalu am blentyn rhywun arall yn eich cartref drwy drefniadau preifat, os nad ydych yn berthynas agos;
  • os yw eich plentyn chi yn derbyn gofal yng nghartref rhywun arall dan drefniadau tebyg;
  • os yw’r plentyn dan un ar bymtheg oed – neu deunaw os yw’r plentyn wedi ei gofrestru’n anabl;
  • os bwriedir i’r trefniadau barhau’n hwy nag wyth diwrnod ar hugain; ac
  • os cytunwyd ar y trefniadau heb unrhyw gyswllt gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Os ydych yn meddwl bod hyn yn disgrifio sefyllfa yr ydych ynddi ar hyn o bryd, yna mae angen i chi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol o fewn 48 awr o’r amser yr ydych yn dod yn ymwybodol ohono.

Os ydych yn bwriadu dod yn rhan o’r fath drefniadau tebyg, dylech ddweud wrth yr awdurdod lleol o leiaf chwe wythnos cyn i’r trefniadau ddechrau.

Mae’r Tîm Lleoli Teuluoedd yn medru cynghori unrhyw un sy’n meddwl bod y fath ofynion cyfreithiol yn effeithio arnynt, felly os oes gennych unrhyw ymholiadau neu ofidion, ffoniwch 01495 766697.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Lleoli Teuluoedd

Ffôn: 01495 766697

E-bost: SS_CHFP@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig