Lluosi
Mae Lluosi yn rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth y DU i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.
Gallai gwella sgiliau rhifedd unigolyn ei helpu i gyflawni nifer o nodau sy'n amrywio o:
- Fwy o hyder i reoli cyllideb a gofalu am arian
- Gwella hyder i ddefnyddio rhifau mewn bywyd bob dydd
- Helpu gyda gwaith cartref eich plentyn
- Deall ryseitiau a gwneud i’r bwyd yr ydych yn ei brynu, i fynd ymhellach
- Cael mynediad i gyfleoedd gwaith newydd neu addysg bellach
I bwy mae’r cyrsiau?
Mae ein cyrsiau Lluosi am ddim i unrhyw un sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Torfaen dros 19 oed, sydd heb ennill TGAU gradd C, neu gymhwyster cyfwerth, mewn Mathemateg. Os ydych eisoes wedi ennill TGAU Mathemateg, peidiwch â phoeni, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Os ydych chi am roi hwb i'ch hyder mewn rhifedd yn eich bywyd cartref neu fywyd gwaith, mae tîm Lluosi Torfaen yma i helpu.
Ariennir y prosiect hwn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Cyrsiau sydd ar gael trwy Lluosi
Cyflogaeth
- Bydd yn Fos arnat ti dy hun (cyflwyniad i ddod yn hunangyflogedig)
- ESOL Iaith Mathemateg (cwrs achrededig)
- ESOL Iaith ar gyfer Trafod Arian (cwrs achrededig)
- TGAU Mathemateg - adolygu
- Llwyddo mewn Arholiadau gyda Lluosi
- Paratoi ar gyfer gwaith
- Cyflwyniad i Daenlenni (cwrs achrededig)
- Mathemateg ar gyfer Gyrfaoedd mewn Lletygarwch ac Arlwyo
- Rhifedd mewn Gweinyddu Busnes
- Mathemateg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Mathemateg mewn Adeiladu, Peirianneg a Gweithgynhyrchu
- Cyflwyniad i Hunangyflogaeth yn y sector Gwallt a Harddwch (cwrs achrededig)
- Cyflwyniad i Wella a Chryfhau’r Ewinedd (cwrs achrededig)
- Cyflwyniad i Siapio a Lliwio'r Aeliau (cwrs achrededig)
- Cymorth Cyflogaeth a Sgiliau
Cyllidebu a Choginio
- Academi Cegin Lluosi – Coginio ar gyllideb (cwrs achrededig)
- Academi Cegin Lluosi – Prydau Tik Tok
- Academi Cegin Lluosi - Coginio ar gyllideb – gwneud i'ch arian fynd ymhellach
- Academi Cegin Lluosi – Cefnu ar Brydau Parod a Lluosi eich prydau cartref
- Academi Cegin Lluosi - Cyflwyniad i Aer-ffrio
- Sgiliau Bywyd – Lluosi’ch hyder gydag arian, cyllidebu a chynilo
- Gwneud i Fy Arian Weithio (cwrs achrededig)
- Mae Pob Ceiniog yn Cyfrif
- Doeth am Arian
Plant a Theuluoedd
- Rapsgaliwns Rhifau – Caneuon a Rhigymau - Grŵp i Rieni a Phlant Bach (0-4 oed)
- Rapsgaliwns Rhifau – Gweithgareddau Hambwrdd – Grŵp i Rieni a Phant Bach (3-4 oed)
- Lluosi – Chwarae yn Go Play – Sesiynau i rieni a phlant (0-5 oed)
- Helpu Plentyn i ddatblygu Sgiliau Rhif Cynnar Drwy Chwarae (cwrs achrededig oedolion yn unig)
- Ffitrwydd Trwy Rifau
- Mathemateg i Rieni
- Paratoi eich plentyn ar gyfer TGAU Mathemateg (plant ysgol uwchradd)
- Helpu’ch Plentyn i Lwyddo gyda Lluosi - Clwb i’r Teulu (plant ysgol uwchradd)
- Cadw i Fyny gyda’r Plant
Iechyd a Lles
- Cinio a Dysgu – dysgu anffurfiol yn seiliedig ar fathemateg, darperir cinio
- Cinio a Dysgu – Gwella a Ffynnu (cwrs achrededig, darperir cinio)
- Byrbrydau a Ffeithiau
- Ffitrwydd Trwy Rifau (oedolion yn unig)
- Mŵfs Mathemateg: Grwfio a Gwella
- Sgleinio’r sgiliau rhifedd
- Chwarae gwerth chweil – sesiynau gemau rhyngweithiol
- Cyflwyniad i Ddeall Materion Ariannol
- Lluosi eich Sgiliau DIY
I gofrestru eich diddordeb yn unrhyw un o'r cyrsiau uchod, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb.
Lluosi – ffurflen mynegi diddordeb
Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2024
Nôl i’r Brig