Croeso

Mae'r Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn Eu Cymuned yn Nhorfaen yn darparu ystod o gyrsiau o ansawdd uchel i ysbrydoli oedolion o bob rhan o'r sir mewn amgylchedd cyfeillgar, calonogol a chefnogol.

Os ydych chi'n ystyried ymgeisio am swydd neu os hoffech symud ymlaen yn eich gyrfa, mae ein cyrsiau achrededig yn cynnig cyfle delfrydol i chi ddatblygu'ch sgiliau, gwella'ch rhagolygon o ran cyflogadwyedd ac ennill cymwysterau gwerthfawr.

I'r rhai a hoffai ddysgu er budd personol, bydd ein cyrsiau Ffordd o Fyw a Hamdden yn eich galluogi i gychwyn ar siwrnai ddengar o archwilio profiadau newydd, datblygiad personol a gwell iechyd a lles.

Cofrestru

Bydd lleoedd cwrs yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin. Gallwch gofrestru ar gyfer cwrs yn bersonol mewn unrhyw un o'n canolfannau neu drwy ffonio ein llinell gymorth lle bydd aelod o'n tîm yn falch o roi gwybodaeth ar eich cwrs a’ch cynorthwyo i gofrestru.

Lle mae ffi, i sicrhau lle ar y cwrs o'ch dewis, bydd rhaid i chi dalu o leiaf 50 % tuag at y gost (na ellir ei ad-dalu). Gall y balans sy'n weddill gael ei dalu unrhyw adeg cyn cychwyn y cwrs ond heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.

NODER: Rhaid i gyrsiau o 8 wythnos o hyd neu lai i gael eu talu'n llawn erbyn dechrau'r dosbarth cyntaf.