Cyrsiau am ddim: Sgiliau Hanfodol

Mae angen sgiliau hanfodol i lwyddo mewn gwaith, dysgu a bywyd. Dyna'r cerrig sarn sy'n ei gwneud yn haws dysgu sgiliau eraill. Beth bynnag yw eich pwynt cychwyn, gallwn helpu.

Mae gennym fwy na 50 o gyrsiau Sgiliau Hanfodol a Llythrennedd Digidol i ddewis ohonynt, gan gynnwys cyrsiau arlein lle nad oes angen dysgu wyneb i wyneb ac y gellir eu cwblhau o gysur eich cartref eich hun.

  • Cyrsiau Rhifedd AM DDIM*
  • Cyrsiau Llythrennedd AM DDIM*
  • Cyrsiau Llythrennedd Digidol AM DDIM*
  • Cyrsiau ESOL - Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill AM DDIM*
  • Cyrsiau ILS - Sgiliau Byw'n Annibynnol AM DDIM*

*Mae ffioedd aelodaeth defnyddwyr y ganolfan yn berthnasol.

Mae'r cyrsiau yma ar gael ddydd a nos ledled Torfaen.

Ymunwch ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Gwella'ch Saesneg

Magwch hyder mewn darllen, ysgrifennu a siarad a gwrando. Gloywch sillafu, atalnodi a gramadeg.

Gwella'ch Mathemateg

Magwch hyder mewn sgiliau rhifau sylfaenol gan gynnwys y defnydd o ffracsiynau, degolion a chanrannau. Dysgwch sut i ddefnyddio'r system fetrig ar gyfer prosiecctau yn y cartref, dehongli graffiau a thablau a deall a defnyddio gwybodaeth ariannol sylfaenol.

Gwella’ch Sgiliau Digidol

Dysgwch sut i ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled yn effeithiol. P'un ai ydych chi'n ddechreuwr pur neu am wella'ch sgiliau digidol, bydd ein cyrsiau'n eich helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg a chadw'n ddiogel ar-lein. Rhyddhewch eich creadigrwydd!

Paratoi ar gyfer TGAU

Ydych chi'n ystyried sefyll TGAU Mathemateg neu Saesneg yn y dyfodol ond ddim yn teimlo'n barod eto? Bydd y cyrsiau 38 wythnos yma'n cynnwys y sgiliau y mae eu hangen i sefyll TGAU yn y dyfodol.

ESOL - Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Mae'r cyrsiau yma'n diwallu anghenion pobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae dosbarthiadau ar gael i ddechreuwyr pur a'r rheiny sydd am ddatblygu eu Saesneg a dysgu am fywyd yn y DU. Gwellwch hyder wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Dysgwch mewn grwpiau bach, cyfeillgar trwy amrywiaeth o weithgareddau fel trafodaethau mewn grŵp, gemau iaith, posau a chwarae rôl.

ILS - Sgiliau Byw'n Annibynnol

Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cynnig cyrsiau i oedolion gydag amrywiaeth o anableddau ac anawsterau dysgu. Cynllunnir cyrsiau ILS i ddatblygu sgiliau craidd fel hyder, cyfathrebu, sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw'n annibynnol. Mae dysgu'n digwydd mewn grwpiau bach mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar.

Hanes Teuluol - Cael hyd i'ch

Dysgwch sut i ymchwilio ac olrhain eich hanes teuluol gan ddefnyddio wasanaethau ar-lein.

Sgiliau Digidol

Beth am ymuno ag un o ddosbarthiadau llythrennedd digidol ar-lein Dysgu Oedolion yn Eu Cymuned yn Nhorfaen sydd AM DDIM? Byddant yn eich helpu i ddysgu sut i:

  • Defnyddio apiau Microsoft Office a Google a ddefnyddir yn helaeth gan gyflogwyr.
  • Chwilio ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i swyddi gwag ynghyd ag awgrymiadau  ar sut i dderbyn cynnig swydd.
  • Rhyngweithio ag eraill wrth aros yn ddiogel ar-lein.
  • Cyfathrebu â chyflogwyr a chydweithio ag eraill sy'n chwilio am swyddi.
  • Gwneud cais am waith gydag e-byst neu ffurflenni cais sydd wedi cael eu cynhyrchu'n broffesiynol.

Mae sgiliau llythrennedd digidol yn hanfodol ar gyfer cyflogadwyedd, felly beth am roi hwb i'ch cyfleoedd gwaith (a'ch CV) trwy gofrestru heddiw - ni fyddwch yn difaru!

Os bydd angen i ganolfannau gau yn y dyfodol, lle bo modd bydd cyrsiau yn parhau arlein.

I gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein bydd angen cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, cyfrifiadur/ gliniadur/tabled/ffôn symudol gyda’r porwr diweddaraf. Bydd angen meicroffon ar y ddyfais ac, os yw’n bosibl, camera. Siaradwch â ni os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi i fynd ar-lein, 01633 647647.

Ffoniwch i gael sgwrs anffurfiol am ein hystod eang o gyrsiau sgiliau hanfodol a TGAU, a chael hyd i’r cwrs iawn i chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Dysgu Oedolion a'r Gymuned

Ffôn: 01633 647647

Nôl i’r Brig